Adroddiad Hanner Ffordd

Intersectional Identities | Hunaniaethau Croestoriadol

Adroddiad Hanner Ffordd

Dros y naw mis diwethaf, mae’r prosiect Hunaniaethau Croestoriadol|Intersectional Identities wedi adeiladu perthynas gydweithredol gyda phartner, wedi archwilio prosesau croestoriadol, wedi hwyluso creadigaeth gydweithredol ac wedi contractio 29 o artistiaid llawrydd.

Adeiladu Partneriaeth Gydweithredol Iach

Mae creu newid parhaol yn cymryd amser ac yn galw am ymdrech bwrpasol a chyson. Fel partneriaid, rydym yn awyddus nid yn unig i sicrhau ein bod yn cael effaith ar y cymunedau rydym yn cysylltu â hwy, ac ar sectorau’r celfyddydau a diwylliant ond, yr un mor bwysig, rydym am effeithio arnom ni ein hunain ac ar ein sefydiadau/rhwydweithiau.

Dechreuwyd y prosiect hwn gyda chyfarfodydd Cynllunio Partner i ddod at ein gilydd i ddatblygu Cytundeb Cydweithrediadol, amserlen, a chadarnhau ein gwerthoedd ar y cyd o ran sut y byddwn yn gweithio fel tîm partneriaeth. Un penderfyniad a wnaed gennym ar ddechrau’r prosiect oedd i gynnig i bob person llawrydd a gontractwyd y dewis o rannu Dogfen Mynediad. Dogfen yw hon sy’n amlinellu anghenion mynediad person anabl er mwyn dod â mwy o degwch i mewn i’n gofodau. Mae’r ddogfen hon yn caniatáu amser i’r prosiect/sefydliad wneud addasiadau a dod i ddeall gwahanol anghenion a dulliau o weithio. Fel atodiad i’r llythyr cyflogi, rhoddwyd i bob gweithwr llawrydd a gontractwyd ar y prosiect y dewis o ddarparu Dogfen Mynediad ar gyfer y tîm. Aethom ati i gynnig gwybodaeth ar sut i lunio Dogfen Mynediad i gefnogi’r rhai nad oeddynt wedi ysgrifennu un erioed o’r blaen.

Tra ein bod wedi penderfynu sicrhau bod pob person llawrydd a gontractir yn cael cynnig y cyfle i gyflwyno Dogfen Mynediad ynghyd â’u contract, roeddem hefyd yn awyddus i sefydlu amlinelliad clir o’r modd y byddem yn gweithio fel tîm o bartneriaid. Fel partneriaid yn cynrychioli’r celfyddydau yn ogystal â’r sectorau diwylliant, roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn datblygu iaith i’w rhannu yn ein cyfarfodydd oedd yn galluogi dysgu fyddai’n fuddiol i bawb ohonom. Fel modd o sefydlu partneriaeth gydweithredol gynhyrchiol ac iach, aeth Tove Hubbard (yn cynrychioli Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar) ati i ddatblygu dogfen yn seiliedig ar yr hyn a rannwyd rhyngom yn ystod ein hail gyfarfod partneriaeth ynghylch yr amgylcheddau rydym yn gweithio orau o’u mewn. Ym mhob cyfarfod partner, rydym wedi rhoi amser i gyd-ysgrifennu ein dogfen Dulliau o Weithio gyda Tove yn arwain y drafodaeth. Daeth y dasg o gyd-greu’r ddogfen hon yn elfen llawer pwysicach wrth ysgogi sgyrsiau o amgylch croestoriadedd, cynhwysiant a thegwch nag yr oeddem wedi tybio ar y dechrau. Byddwn yn parhau i ddefnyddio hon i sbarduno sgwrs a newid oddi mewn i bob un ohonom.

Archwilio Prosesau Croestoriadol – Datblygu Whimsy

Ym mis Awst 2021, cyfarwyddodd Matthew Gough y datblygiad amlieithog/amlddiwylliannol ‘Whimsy’. Prif bwrpas y cyfnod datblygu hwn oedd archwilio sut rydym yn sicrhau bod y broses o ddatblygu a chreu gwaith nid yn unig yn amlieithog, ond ei fod hefyd yn cynnal manylion y diwylliant y mae’r iaith yn tarddu ohoni.                             

There is no language without culture.
— Steve Emery, Hwb Byddar Cymru

Un peth a gododd yn ystod y broses ymarfer oedd pwysigrwydd sicrhau bod yna ddealltwriaeth glir o’r modd y bydd Dogfennau Mynediad yn cael eu gweithredu ar ôl eu derbyn. Tra bydd unrhyw anghenion mynediad logistaidd yn cael eu trefnu gan y cynhyrchydd (h.y. dehongli BSL/SAES), dylid sicrhau bod y person sy’n gyfrifol am gynnal y gofod (y cyfarwyddwr neu debyg) yn ymwybodol o anghenion mynediad y rhai sydd o fewn y gofod hwnnw. Eu cyfrifoldeb hwy, ynghyd â’r Rheolwr Llwyfan, yw sicrhau bod pob addasiad rhesymol yn cael eu gwneud yn ystod y cyfnod ymarfer. 

Rhoddodd y cyfnod archwilio hwn amser i ni drafod a gofyn cwestiynau, yn hytrach na theimlo bod raid i ni frysio i gwblhau cynnyrch terfynol. Cymerwch olwg ar ganlyniad datblygiad y Whimsy yma.     

Cyn cynnal y digwyddiadau ymgysylltu cymunedol ym mis Gorffennaf, bydd ‘Whimsy’ yn treulio cyfnod ymarfer i ychwanegu rhagor o elfennau dawns i’r gwaith, ynghyd â chapsiynau creadigol, a sicrhau bod fersiwn o’r sioe ar gael yn Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain i’w pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cydweithrediadau Creadigol

Drwy gydol y prosiect hwn, rydym yn hwyluso dau gydweithrediad creadigol gyda grwpiau sy’n bodoli eisoes, sef Theatr Ieuenctid Taking Flight ac Ysgol Sul Arwyddion Hwb Byddar Cymru.

Cynhaliwyd y cyntaf o’r rhain ym mis Tachwedd 2021 pan aeth y partneriaid Krystal S. Lowe a Guy O’Donnell (CDCC) ati i hwyluso sesiynau symud gyda Theatr Ieuenctid Taking Flight. Yn wreiddiol, byddai’r gwaith hwn wedi cael ei hwyluso gan y llawryddion Movement Practitioners; fodd bynnag, fel Tîm Partner, roeddem yn awyddus i roi llawer mwy o amser i’r broses recriwtio, felly cafodd y gwaith ei hwyluso gan bartneriaid. Caiff y cydweithrediad Ysgol Sul Arwyddion ei hwyluso ym mis Gorffennaf gan y llawryddion Movement Practitioners.

Prosesau Recriwtio

Yn ôl ein hamserlen wreiddiol, roeddem yn bwriadu recriwtio ar gyfer rhagor o rolau prosiect ym mis Medi 2021; fodd bynnag, penderfynwyd ymestyn y cyfnod hwn i roi cyfle ac amser i ni edrych yn ofalus ar elfennau arloesol yn y broses recriwtio, a chaniatáu mwy o amser fel bod modd i ystod ehangach o bobl weld y rolau ac ymateb iddynt.

Ym mis Ionawr 2022, llwyddwyd i gontractio saith rôl llawrydd: 2 Gyd-Werthusydd Beirniadol a 5 o Recriwtwyr Llawrydd.

Cyd-werthuswyr: Ein bwriad gwreiddiol oedd contractio un Gwerthusydd Beirniadol; fodd bynnag, gan fod cynifer o geisiadau cryf wedi dod i law, penderfynwyd cyflogi dau berson i rannu’r rôl. Mae pob Gwerthusydd Beirniadol yn dod â rhywbeth gwahanol a gwerthfawr iawn i’r rôl; gyda’i gilydd, maent yn dîm gwerthuso cryfach fyth – ac yn rhannu eu cryfderau gyda’i gilydd.

Recriwtwyr Llawrydd: mewn ymdrech i archwilio dulliau newydd ac arloesol o recriwtio, aethom ati i recriwtio 5 Recriwtiwr Llawrydd – pobl a chanddynt eisoes enw da am ymarfer arloesol, ac angerdd dros wneud pethau’n wahanol a herio’r norm. Drwy eu gwaith hwy byddwn yn dysgu ac yn datblygu ein harferion ein hunain, gan sicrhau ein bod yn recriwtio mewn ffordd wahanol ar gyfer rolau’r prosiect: Ymarferwyr Symud a Hwyluswyr Sgyrsiau Diwylliannol. Mae’r Recriwtwyr Llawrydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o sicrhau ystod llawer mwy amrywiol o ymgeiswyr. Mae hyn yn profi nad oes raid i bob sefydliad glustnodi cyllid ar gyfer tîm o Recriwtwyr Llawrydd, ac os oes gan bob sefydliad dîm o bobl mwy cynrychioliadol a chysylltiedig â’r gymuned, yna bydd y recriwtio’n ymdebygu i hyn ar unwaith. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith o recriwtio ar gyfer y rolau Hwylusydd Sgyrsiau Diwylliannol ei wneud trwy argymhellion personol yn hytrach na hysbysebu’n eang fel sy’n arferol. Bu cysylltiadau cymunedol dilys yn allweddol i sicrhau llwyddiant y gwaith hwn.

Cyfraniadau Partneriaid Unigol

Hwb Byddar Cymru

Cyfraniad mewn BSL Cymraeg isod.

“Bu’n brofiad gwerthfawr i weithio’n agos gyda phobl a grwpiau y tu allan i’m ‘swigen Byddar’ a dysgu am y problemau sy’n wynebu pob partner prosiect fel ei gilydd. Rwyf wedi creu cysylltiad cryf â’r sgyrsiau diwylliannol a hefyd â’r iaith Gymraeg a’r hanes diwylliannol, gan weld tebygrwydd gyda hanes a diwylliant Byddar. Mae Hwb Byddar Cymru yn wyn iawn, felly mae’r ymddiriedolwyr yn bwriadu ymestyn amrywiaeth y Bwrdd yn y cyfeiriad cywir; mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldeb i drefnu diwrnod ymwybyddiaeth i feddwl y tu allan i’w diwylliant eu hunain a’u nodweddion gwarchodedig. Mae’r prosiect yn ein helpu i symud ymlaen gyda’r broses hon.”

 

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

“Mae’r broses wedi bod yn fanteisiol o ran darparu platfform ar gyfer y sgyrsiau diwylliannol, sef y rhan o’r prosiect oedd, i mi, y fwyaf diddorol a buddiol. Mae wedi caniatáu i ni rannu profiadau, a thrwy hynny i ddeall a dysgu. Mae’r dysgu hwnnw hefyd wedi rhoi hyder, ac wrth symud ymlaen byddwn yn gweithredu ar beth o’r dysgu hwnnw yn ein rhaglennu a’n cynllunio.”  

 

Krystal S. Lowe

“Mae pob Cyfarfod Partner wedi cynnig trafodaeth fywiog, ddofn, a hynny mewn modd hynod agored a gwylaidd. Teimlaf fy mod wedi cysylltu fel tîm partner, a chredaf fod cael Tove i arwain ar y ddogfen Dulliau o Weithio wedi bod yn ganolog i’r berthynas iach rhyngom ni fel partneriaid. Mae’r berthynas gref, gydweithredol hon wedi caniatáu i bob agwedd o’r prosiect ddod i fodolaeth drwy gyd-ddyheu, a’r nodau rydym yn eu rhannu, ac yn fwyaf arbennig, ein cyd-ddatblygiad a’n cyd-ddealltwriaeth fel pobl. Fel hwylusydd ar Gydweithrediad Creadigol Theatr Ieuenctid Taking Flight, ro’n i’n gallu dysgu oddi wrth y tîm oedd yno eisoes, a chael gwell dealltwriaeth o sut i arwain sesiynau symud ar gyfer cyfranogwyr Byddar. Yn fwyaf diweddar, roedd cwrdd â’r côr Cymraeg Côrdydd, fel rhan o’r Sgyrsiau Diwylliannol, yn brofiad anhygoel wrth i mi wrando ar y canu yn yr iaith Gymraeg, a thrafod gydag aelodau o’r côr beth y dymunent ei gael o’r celfyddydau a diwylliant. Ewch i krystalslowe.com/writer-ksl/a-sharing-of-learning am ragor o wybodaeth am yr hyn a ddysgais drwy’r prosiect hwn.”

 

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

“Mae gwella mynediad at ddawns ar gyfer cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a staff yn nod strategol allweddol i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn yn gymorth mawr i ni yn ein dysgu, o ran sut orau i gyflawni’r nod yma.

Mae mynychu’r cyfarfodydd Partneriaeth yn ffordd wych o rannu arfer da a dod i wybod mwy am yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth ymestyn mynediad at ddarpariaeth ddiwylliannol.

Mae’r cyfarfodydd hefyd yn ofod diogel ar gyfer cael sgyrsiau anodd, ac yn fy mhrofiad i mae’r cyfleoedd hyn yn unigryw.

Yn ddiweddar, talodd staff Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i gwmni Taking Flight am gyflwyno Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod; daw hyn o argymhelliad a ddeilliodd o fod yn rhan o’r prosiect hwn.”

 

Cwmni Theatr Taking Flight

“Mae’r prosiect hwn wedi ein hysbrydoli i wneud newidiadau yn y cwmni:  

•          Yr iaith Gymraeg – Mae ein taith at weithio yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn un araf, ac mae hi’n dal i fod yn y cam datblygu. Eleni, mae pethau wedi symud ymlaen yn gyflym iawn ers i ni gynhyrchu ‘FOW’, a bellach rydym wedi cyfieithu ein hantur hybrid awyr-agored yn seiliedig ar ap, i’r Gymraeg a bydd yn teithio yr haf hwn. Rydym yn gweithio gyda’r awdures Manon Steffan Ros ar greu fersiwn newydd o’n sioe ddwyieithog (SAES/BSL), ‘You’ve Got Dragons’, a gaiff ei pherfformio mewn BSL a Chymraeg yn 2023 (mae cyllid ar y gweill).

•          Hyfforddiant –  Mae staff Taking Flight wedi derbyn hyfforddiant ar Duedd Anymwybodol a Gwrth-hiliaeth.  

•          Rydym bob amser wedi gweithio’n ddwyieithog yn Saesneg a BSL, a bellach rydym i gyd yn dysgu Cymraeg; bwriad hyn yw ategu dull tairieithog o weithio rydym wedi bod yn gweithio tuag ato ers 2019 – ar hyn o bryd mae Steph yn hyfforddi i fod yn gyfieithydd BSL, ac mae Garrin a Louise yn astudio BSL a Lefel 2, tra bod Elise yn parhau ar ei siwrne Lefel 6.  

•          CPD –  Ar ôl derbyn adborth gan Matthew ar y broses gyda Whimsy ynghylch Dogfennau Mynediad, mae TF wedi ailasesu eu Dogfen Mynediad / polisi contract a bydd yn parhau i ddatblygu hyn. Bu Steph yn gweithio ar Whimsy dros yr haf, gan helpu i roi’r tîm mewn cysylltiad â pherfformwyr Byddar – mae adborth gan Michael ar y broses hon wedi profi’n ddefnyddiol i’w roi ar waith o fewn ein prosesau.

•          Mae Steph yn gweithio gyda’r Hwb Byddar i gyflwyno hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o Fyddardod – bydd hyn yn bwydo i mewn i ymarfer Steph ei hun.

•          Mae’n wych cael cryfhau’r berthynas gyda’r Hwb Byddar.

•          Cafwyd sgyrsiau hyfryd gyda’r RSPB ynghylch cydweithredu yn y dyfodol; mae Jo a Tove wedi bod yn hynod hael eu cefnogaeth.

•          Cymryd pob cyfle i wneud cysylltiadau ystyrlon a pherthnasoedd gyda grŵp mwy amrywiol o gydweithredwyr Byddar ac anabl. Darparu modelau rôl positif.

•          Mae’r prosiect hwn wedi ein gwneud yn ymwybodol o’n profiad byw ein hunain, a’n hanwybodaeth, ac wedi rhoi cyfle i ni nodi’r bylchau yn ein gwybodaeth er mwyn gallu gwneud newidiadau.”

 

Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yng Nghymru:

Rhoi Cartref i Natur yng Nghaerdydd

  •       “Aethom ati i gefnogi trafodaethau cychwynnol gyda’r partneriaid trwy lunio dogfen ‘Dulliau o Weithio’ y gellid ei defnyddio i grynhoi sut y byddem yn gweithio gyda’n gilydd fel partneriaeth. Mae ein trafodaethau o gwmpas y ddogfen hon wedi ein galluogi i ddysgu oddi wrth ein gilydd ac i archwilio pynciau cymhleth (e.e. y cysylltiad rhwng ieithoedd a hunaniaeth) sy’n berthnasol i’r prosiect, a byddai RSPB Cymru yn hoffi defnyddio fformat tebyg i agor trafodaethau gyda phartneriaid newydd yn y dyfodol.

  •       Cwrdd â sefydliadau a datblygu perthnasoedd, gan gydnabod y ffaith na ellir brysio’r broses o adeiladu perthnasoedd dilys a chyd-gynhyrchu, a’i bod yn cymryd mwy o amser na’n ffordd arferol ni o weithio mewn partneriaeth, sy’n cael ei yrru gan ryw ganlyniad penodol. Mae hyn yn adlewyrchu ein parodrwydd i ddysgu ac addasu er mwyn parhau’n driw i egwyddorion y prosiect ac egwyddorion moesegol.

  •       Y cyfle i weithio gyda sefydliadau ar brosiect na fyddai’r RSPB fel arfer yn rhan ohono. Defnyddio’r dysgu a’r ddealltwriaeth a rannwyd i gyd-gynhyrchu gweithdy deniadol yn seiliedig ar natur sy’n cefnogi’r perfformiad a’i negeseuon, a’i gynulleidfaoedd i gysylltu â natur.

  •       Y gofod diogel a grëwyd o fewn y cyfarfodydd hyn, yr ysbryd agored a gonest a arweiniodd at barodrwydd i wrando a dealltwriaeth. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn awyddus i’w adlewyrchu mewn cyfarfodydd tîm yn y dyfodol ac o fewn cyfarfodydd sefydliadol ehangach.

  •       Archwilio dulliau o fod yn fwy cynhwysol, hyrwyddo amrywiaeth a gwneud cydraddoldeb yn flaenoriaeth (Dogfennau Mynediad, gwahanol gyfieithwyr – BSL a Chymraeg, dogfen Dulliau o Weithio, bathodyn BSL, ac edrych ymlaen at greu gweithgaredd yn seiliedig ar natur mewn BSL). Rydym hefyd wedi bod yn ymarfer y termau y buom yn eu dysgu yn Gymraeg a BSL, a hynny ar ddechrau cyfarfodydd mewnol eraill o dîm RSPB, yn ogystal â dilyn cyfleoedd annibynnol i ddysgu, ac edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y sgyrsiau diwylliannol a’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Fyddardod yn y dyfodol.”

 

Beth nesaf ar gyfer Hunaniaethau Croestoriadol|Intersectional Identities?

 

●      Sgyrsiau Diwylliannol – Rydym wedi nodi tri grŵp cymunedol y byddwn yn cysylltu a datblygu perthnasoedd â hwy dros gyfnod y prosiect hwn, ond hefyd wrth symud ymlaen ar ôl i’r prosiect hwn ddod i ben: Côrdydd (Côr Cymraeg), a Bore Coffi yr Hwb Byddar, a bydd Cymdeithas Celf a Diwylliant Tre-biwt yn hwyluso sesiwn ffotograffiaeth gan wneud defnydd o ofodau gwyrdd RSPB yn ninas Caerdydd. Bydd y Sgyrsiau Diwylliannol yn digwydd mewn tair rhan:

        Rhan 1: Bydd Partneriaid yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau grwpiau cymunedol. Bydd yn gyfle da i ddod i adnabod yr aelodau, ac i’r aelodau ddod i’w hadnabod hwythau.

        Rhan 2: Bydd Hwyluswyr Sgyrsiau Diwylliannol yn hwyluso trafodaethau anffurfiol yn archwilio’r cwestiwn ‘Beth hoffwn i ei gael o gelfyddyd a diwylliant?’

        Rhan 3: Byddwn yn dod â’r tri grŵp cymunedol at ei gilydd ar gyfer digwyddiad creadigol fydd yn archwilio’r trafodaethau hyn ymhellach, gyda’r Hwyluswyr Sgyrsiau Diwylliannol yn arwain y trafodaethau.

●      Digwyddiadau Ymgysylltu Cymunedol – ar 30 a 31 Gorffennaf byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu cymunedol mewn lleoliadau awyr-agored. Yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn o’r Sgyrsiau Diwylliannol, bydd y digwyddiadau hyn yn tynnu cymunedau at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau a diwylliant. Yn ystod y digwyddiadau hyn, caiff Whimsy ei berfformio’n ddwyieithog ac yn amlieithog; bydd yr RSPB yn hwyluso gweithdai natur, a bydd yr Ymarferwyr Symud llawrydd yn arwain symudiadau amlieithog drwy gyfrwng gweithdai natur gyda theuluoedd. Drwy gyfrwng y Sgyrsiau Diwylliannol byddwn, dros y misoedd nesaf, yn edrych i mewn i fformat y digwyddiadau hyn.

●      Rhannu yn y Sector: ar 18 Hydref 2022, byddwn yn cynnal digwyddiad hanner-diwrnod i rannu ymhlith y sector gyda’r bwriad o rannu mwy o fanylion am yr hyn rydym wedi ei archwilio, ei brofi a’i ddysgu. Ein bwriad yw cynnal y digwyddiad hwn yn amlieithog, wyneb yn wyneb, ac ar lif byw yn ogystal.

Mae’r partneriaid eisoes wedi dechrau ymgorffori’r gwaith hwn i mewn i’w bywydau personol a phroffesiynol, a disgwyliwn weld llawer mwy o hyn yn digwydd yn y dyfodol.

Mae croeso i chi gysylltu â phartneriaid y prosiect os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth.

 

Cofion cynnes,

Tîm Partner Hunaniaethau Croestoriadol |Intersectional Identities

Hwb Byddar Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Taking Flight, a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Cymru: Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd.

Mae Intersectional Identities | Hunaniaethau Croestoriadol wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a Sefydliad Dawns Cenedlaethol Bermuda.