Facilitators

Intersectional Identities / Hunaniaethau Croestoriadol

Welsh and English Below

Call-out for Three Freelance Facilitators

British Sign Language Video

 English Below

Chwlio am dri hwylusydd rhydd-gyfrannol 


Dymunwn glywed gan bobl sydd ddim o reidrwydd yn galw eu hunain yn ‘hwyluswyr’ ond sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â chreu manna a digwyddiadau hygyrch a chynhwysol.

Rydym yn chwilio am dri hwylusydd a chanddynt brofiad eisoes o hwyluso/creu a/neu letya mannau a lleoliadau cynhwysol a hygyrch neu fyddai’n dymuno hyfforddi i fod yn hwyluswyr.  

Cewch eich talu 

I fynychu dau sesiwn hyfforddi hanner diwrnod 

I hwyluso dau sesiwn ‘Sgwrs Ddiwylliannol’ gyda chymunedau. 

Mae’r rhain yn swyddi rhydd-gyfrannol wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ac sy’n cynnwys hyfforddiant. Yr holl ddyddiadau i’w cadarnhau. 

Tâl: £500 yn cynnwys 2 hanner diwrnod o hyfforddiant & 2 hanner dydd o hwyluso 

Dyddiad Cau gwneud cais: Mawrth 18 2022

Dyddiad Dechrau: Ebrill 1 2022

Cyfnod: Ebrill - Mai 2022

Hanfodol:

Y gallu i fod wedi eich lleoli yng Nghaerdydd. 

Teimlo’n angerddol am y celfyddydau/creadigrwydd/mynediad/cynhwysiad

Parodrwydd i ddysgu.


Dymunol: 

Cefndir mewn celfyddydau cyfranogol

Profiad o weithio mewn gweithleoedd amlieithog 

Profiad o hyrwyddo a meithrin cynwysoldeb

Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg

Cyrchu Mynediad 

Mae yna gyllideb cyrchu mynediad ychwanegol ar gael i gefnogi eich gwaith ar y project hwn os ydych yn uniaethu fel person anabl neu B/byddar. 

Anogir ymgeiswyr ddod i gyswllt gydag unrhyw gwestiynau neu i drafod unrhyw anabledd a/neu gymorth mynediad B/byddar a allai fod ei angen er mwyn ymgeisio a chymryd rhan yn y sgwrs ar ddethol. 

Os cewch eich contractio efallai y byddwch yn dymuno llenwi a chyflwyno ffurflen atodol cyrchu mynediad, wrth ddychwelyd eich llythyr ymrwymo wedi’i lofnodi, er mwyn ein hysbysu o unrhyw anghenion mynediad. Gellir dod o hyd i batrymlun ffurflen atodol cyrchu mynediad a gwybodaeth bellach yn https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc

Sut i wneud cais

Byddwch cystal â darllen yr wybodaeth ynglŷn â’r project isod ac yna sôn wrthym amdanoch chi eich hun.

Beth ydych chi’n ei feddwl o’r project?

Pam ydych chi eisiau bod yn rhan ohono?

Dywedwch wrthym amdanoch chi a’ch medrau a’r hyn a gymerwch i’r swydd.

Gallwch wneud hyn drwy:

·      Fideo Uchafswm o 3 munud

·       Recordiad Sain Uchafswm o 3 munud

·       Llythyr eglurhaol (uchafswm o 500 o eiriau)

Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg

Byddwch cystal â pheidio ag anfon manylion gyrfa.

Anfonwch bob cais i Krystal S. Lowe krystalslowe.contact@gmail.com a theimlwch yn rhydd hefyd i ddod i gyswllt â Krystal os oes gyda chi unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio.

Gwybodaeth ynglŷn â’r project: 

Drwy gydol y 18-mis nesaf, bydd y partneriaid project, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Taking Flight, a’r Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar yn datblygu cynulleidfaoedd newydd, cyfranogwyr, ac artistiaid, gyda ffocws penodol ar groestoriadau pobl B/byddar, Du a Chymraeg eu hiaith. 

Byddwn yn creu dulliau croestoriadol o rannu, cynhyrchu, a thrafod ‘celfyddydau & diwylliant’. Byddwn yn chwilota sut mae defnyddio mannau agored i wella llesiant, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, a chynhwysiad diwylliannol. Adeiladwn berthnasau newydd a hirhoedlog rhwng sefydliadau /gweithwyr llawrydd o wahanol gyd-destunau; a hyrwyddo dawns fel ffurf gelfyddydol gynhwysol a hygyrch.

Mae’r gyriant tuag at gydraddoldeb yn y celfyddydau wedi arwain at nifer o brojectau yn canolbwyntio ar un agwedd o allgau. Fodd bynnag, mae gan nifer o bobl mwy nag un nodwedd warchodedig (haenu), ac mae risg ychwanegol y bydd pobl nad sy’n wyn, sydd ddim yn wrywod yn cael eu hallgau ymhob nodwedd (croestoriadedd). Mae’r project hwn yn cyfeirio at y diffyg croestoriadedd/haenu mewn cynyrchiadau diwylliannol prif ffrwd ac yn talu sylw arbennig at groestoriadau Du/B/byddar/Cymraeg. Rydym wedi lleoli rhan o’r project mewn mannau awyr agored er mwyn cyfeirio at absenoldeb profiadau/hanesion croestoriadol mewn mannau cyhoeddus. Tra bod budd cael mynediad i natur ar lesiant wedi ei ddogfennu’n helaeth, maen nhw’n fannau un-ddiwyllianol gan fwyaf.

Disgwyliwn mai un deilliant o’r project hwn fydd cael grŵp amrywiol o artistiaid a sefydliadau a all gyd-greu gyda chymunedau a gafodd eu hymylu. Gobeithiwn bydd y perthnasau cymunedol yn ymestyn tu hwnt i gyfnod 18 mis y project, gan arwain at brojectau arloesol a grëwyd ar y cyd yn y dyfodol. Drwy fyw ein gwerthoedd o degwch a chyd-greu, byddwn yn tynnu ar wybodaeth gyfunol ein holl gyfranwyr a sicrhau unplygrwydd artistig drwy hynny.




Welsh Above

Call-out for Three Freelance Facilitators


We are seeking people to facilitate a number of ‘Cultural Conversation’ sessions exploring the question ‘What does arts and culture mean to you?’.

What is Intersectionality? In the context of this project, Intersectionality is relating to a person holding multiple protected characteristics at once i.e. a Black, disabled woman. 

We really want to hear from people who may not call themselves ‘facilitators’ but who are passionate about creating accessible and inclusive spaces and events.

We are seeking three freelancers who either already have experience as facilitators/creating and/or hosting inclusive and accessible spaces or freelancers who would like to train as facilitators.  

You will be paid  

  • To attend two half day training sessions 

  • To facilitate two half day ‘Cultural Conversation’ sessions with communities. 

These are freelance roles based in Cardiff and include training. All dates are to be confirmed. 

Fee: £500 for 2 x half days training & 2 x half days facilitation

Deadline to apply: March 18 2022

Start Date: April 1 2022

Timeline: April - May 2022

Essential:

Ability to be Cardiff based. (Support is available for those travelling a significant distance)

Passionate about the arts/creativity/access/inclusion

A willingness to learn.

Desirable: 

Participatory Arts background

Experience in multilingual working spaces

Experience in promoting and fostering inclusivity

We welcome all applications from people of all backgrounds and levels of experience and particularly from those who identify as Black, non-black people of colour, Deaf, disabled and/or Welsh Speaking

Access 

There is an additional access budget available to support your work on this project if you identify as disabled and/or D/deaf. 

Applicants are encouraged to get in touch with any questions or to discuss any disability and/or D/deaf access support required  in order to apply and partake in the selection conversation. 

If contracted you may wish to complete and submit an access rider when returning your signed letter of engagement to inform us of any access needs. An access rider template and further information can be found at https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc

How to Apply

Please read the project information below. 

  • Tell us about yourself.

  • What do you think about the project?

  • Why do you want to be involved?

  • Tell us about you and your skills and what you will bring to the role.

You can do this by:

·       Video (maximum 3 minutes)

·       Audio Recording (maximum 3 minutes)

·       Covering Letter (500 words max)

Please do not send CVs.

Please send all applications to Krystal S. Lowe <krystalslowe.contact@gmail.com> and also contact Krystal beforehand if you have any questions. 

Project Information: 

The ‘Cultural Conversations’ are one important element of a longer, ongoing project with six partners, outlined below. 

Throughout the next 18-months, project partners, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe,  National Dance Company Wales, Taking Flight Theatre Company, and The Royal Society for the Protection of Birds will develop new audiences, participants, and artists, with specific focus on the intersections of D/deaf, Black, and Welsh speaking people. 

Part of this is changing the way in which arts and cultural organisations engage communities. These ‘Cultural Conversations’ will allow the project partners to understand what arts and culture means to communities. 

During the 18 months we will create intersectional approaches to sharing, producing, and discussing ‘arts & culture’. Explore how outdoor spaces can be used to enhance wellbeing, promote environmental sustainability, and cultural inclusion. Build new, long lasting relationships between organisations/freelancers from different contexts; and promote dance as an inclusive, accessible artform.

The drive towards equity in the arts has led to many projects focusing on a single aspect of exclusion. However, many people hold more than one protected characteristic (intersectionality/layering). This project addresses the lack of intersectionality/layering in mainstream cultural production with specific attention to the Black/D/deaf/Welsh speaking intersections. We have located part of the project in outdoor spaces to address the absence of intersectional experiences/narratives in public spaces. Whilst the benefits of access to green spaces on wellbeing are well documented, they are mostly monocultural-spaces.

We expect one outcome of this project to be a diverse group of artists and organisations who are able to co-create with communities. We hope the community relationships will extend beyond the 18 month duration of the project, leading to innovative co-created projects in the future. By living our values of equity, and co-creation, will we draw on the combined knowledge of all contributors ensuring artistic integrity.

 
 

Intersectional Identities | Hunaniaethau Croestoriadol is funded by Arts Council Wales,

Welsh Government, and The National Dance Foundation of Bermuda.

funding strip landscape colour.jpg


NDFB  48x36 (002).jpeg