Critical Evaluator

Intersectional Identities / Hunaniaethau Croestoriadol

Welsh and English Below 

Call-out for Freelance Part-Time Critical Evaluator

British Sign Language Video

English Below

Chwilio am Werthuswr Beirniadol Rhan-amser Rhydd-gyfrannol

Bwriadwn gyflogi amrywiaeth o weithwyr rhydd-gyfrannol i gefnogi a datblygu dull o weithio a phroses sy’n amlieithog ac amlddiwylliannol er mwyn hyrwyddo Amlieithedd: Creu geirfa Gymraeg, Iaith Arwyddo Brydeinig a Saesneg craidd er mwyn ei ddefnyddio’n ‘gydradd’ ym mhob proses a pherfformiad creadigol a gweithdy cyfranogol.    

Swydd gweithio o bell yw hwn yn bennaf wedi ei leoli unrhyw le yng Nghymru gyda gofyniad i fynychu dau ddiwrnod o ddigwyddiadau byw yn Ne Cymru, Gorffennaf 30 a 31, 2022.

Tâl:                 Taliad rhydd-gyfrannol hollgynhwysol untro o £4,000

Cyfnod Amser:

Dyddiad cau i wneud cais: Ionawr 9, 2022

Dewis Ionawr 9 - 14

Dyddiad cychwyn cytundeb Ionawr 17, 2022 hyd at Ragfyr 2022 (Cyfanswm o 40 diwrnod hyblyg yn ystod oes y project)

Dyddiad cau i ymgeisio:  Ionawr 9, 2021 

Prif Ddyletswyddau:          

Mynychu digwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb 

Asesu’r project drwy gydol oes y project.

Adnabod a thynnu allan dysg y project; yr effaith ar bartneriaid y project a mudiadau cysylltiedig; yr effaith ar gymunedau; a pha wersi gallwn ni eu dysgu o’r broses o gynllunio, datblygu, a chyflenwi Hunaniaethau Croestoriadol;

Gwerthuso pob agwedd o’n gwaith creadigol, strategol a sgwrs yn feirniadol. Bydd hyn yn golygu dogfen werthuso fydd ar gael yn gyhoeddus gyfochr ag adroddiad cwblhau project ffurfiol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ysgrifennu /crynhoi dogfen ddigidol gyda thestun ysgrifenedig sy’n rhannu’r gwerthusiad, cyfweliadau fideo (mewn iaith BSL, Saesneg a Chymraeg), a ffotograffau. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan yr Uwch Gynhyrchydd, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr.

Hanfodol:

● Teimlo’n angerddol ynglŷn â’r celfyddydau a chreadigrwydd

● Statws hunangyflogedig 

● Cofnod hirfaith a phrofiad y gellir ei ddangos mewn monitro, ymchwil a gwerthuso beirniadol mewn unrhyw faes 

● Ar gael i weithio’n hyblyg ac o bell drwy gydol 2022

● Chwaraewr tîm, hunan-gymhellgar a hynod o drefnus

● Medrau cyfathrebu cryf

● Parodrwydd i ddysgu 

● Meddyliwr creadigol 

Dymunol 

● Profiad mewn gwerthuso projectau celfyddydol/diwylliannol hirdymor

● Profiad o theatr deuluol, dawns a/neu waith amlieithyddol. 

● Yn uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg

Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg

Cyrchu Mynediad 

Mae yna gyllideb cyrchu mynediad ychwanegol ar gael i gefnogi eich gwaith ar y project hwn os ydych yn uniaethu fel person anabl neu B/byddar. 

Anogir ymgeiswyr ddod i gyswllt gydag unrhyw gwestiynau neu i drafod unrhyw anabledd a/neu gymorth mynediad B/byddar a allai fod ei angen er mwyn ymgeisio a chymryd rhan yn y sgwrs ar ddethol. 

Os cewch eich contractio efallai y byddwch yn dymuno llenwi a chyflwyno ffurflen atodol cyrchu mynediad, wrth ddychwelyd eich llythyr ymrwymo wedi’i lofnodi, er mwyn ein hysbysu o unrhyw anghenion mynediad. Gellir dod o hyd i batrymlun ffurflen atodol cyrchu mynediad a gwybodaeth bellach yn https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc

Sut i wneud cais

Byddwch cystal â darllen yr wybodaeth ynglŷn â’r project isod ac yna sôn wrthym amdanoch chi eich hun.

Beth ydych chi’n ei feddwl o’r project?

Pam ydych chi eisiau bod yn rhan ohono?

Dywedwch wrthym amdanoch chi a’ch medrau a’r hyn a gymerwch i’r swydd.

Gallwch wneud hyn drwy:

Fideo Uchafswm o 3 munud

Recordiad Sain Uchafswm o 3 munud

Llythyr eglurhaol (uchafswm o 500 o eiriau)

Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg

Byddwch cystal â pheidio ag anfon manylion gyrfa.

Anfonwch bob cais i Krystal S. Lowe krystalslowe.contact@gmail.com a theimlwch yn rhydd hefyd i ddod i gyswllt â Krystal os oes gyda chi unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio.

Gwybodaeth ynglŷn â’r project

Drwy gydol y 18-mis nesaf, bydd y partneriaid project, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Taking Flight, a’r Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar yn datblygu cynulleidfaoedd newydd, cyfranogwyr, ac artistiaid, gyda ffocws penodol ar groestoriadau pobl B/byddar, Du a Chymraeg eu hiaith. 

Byddwn yn creu dulliau croestoriadol o rannu, cynhyrchu, a thrafod ‘celfyddydau & diwylliant’. Byddwn yn chwilota sut mae defnyddio mannau agored i wella llesiant, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, a chynhwysiad diwylliannol. Adeiladwn berthnasau newydd a hirhoedlog rhwng sefydliadau /gweithwyr llawrydd o wahanol gyd-destunau; a hyrwyddo dawns fel ffurf gelfyddydol gynhwysol a hygyrch.

Mae’r gyriant tuag at gydraddoldeb yn y celfyddydau wedi arwain at nifer o brojectau yn canolbwyntio ar un agwedd o allgau. Fodd bynnag, mae gan nifer o bobl mwy nag un nodwedd warchodedig (haenu), ac mae risg ychwanegol y bydd pobl nad sy’n wyn, sydd ddim yn wrywod yn cael eu hallgau ymhob nodwedd (croestoriadedd). Mae’r project hwn yn cyfeirio at y diffyg croestoriadedd/haenu mewn cynyrchiadau diwylliannol prif ffrwd ac yn talu sylw arbennig at groestoriadau Du/B/byddar/Cymraeg. Rydym wedi lleoli rhan o’r project mewn mannau awyr agored er mwyn cyfeirio at absenoldeb profiadau/hanesion croestoriadol mewn mannau cyhoeddus. Tra bod budd cael mynediad i natur ar lesiant wedi ei ddogfennu’n helaeth, maen nhw’n fannau un-ddiwyllianol gan fwyaf.

Disgwyliwn mai un deilliant o’r project hwn fydd cael grŵp amrywiol o artistiaid a sefydliadau a all gyd-greu gyda chymunedau a gafodd eu hymylu. Gobeithiwn bydd y perthnasau cymunedol yn ymestyn tu hwnt i gyfnod 18 mis y project, gan arwain at brojectau arloesol a grëwyd ar y cyd yn y dyfodol. Drwy fyw ein gwerthoedd o degwch a chyd-greu, byddwn yn tynnu ar wybodaeth gyfunol ein holl gyfranwyr a sicrhau unplygrwydd artistig drwy hynny. 

 

Welsh Above

Call-out for Freelance Part-Time Critical Evaluator

We are seeking to engage a diversity of freelancers to support and develop a multilingual, multicultural approach and process and promote Multilingualism: Creating a core Welsh, British Sign Language, and English vocabulary to be used ‘equally’ in all creative processes, performances, and participatory workshops.    

This is mainly a remote role based anywhere in Wales with the requirement to attend two days of live events in South Wales, July 30th and 31st 2022.

Fee:                 One-off all-inclusive freelance fee £4,000

Timeline:              

Deadline to apply 9 January 2022

Selection 9-14 January

Contract start date January 17 2022  through to December 2022 (40 flexible days in total across the life of the project)

Deadline to apply:  9 January 2022

Main Duties:          

To attend virtual and face to face meetings/events.

Assess the project throughout the duration of the project.

To identify and draw out the project learning; impact on project partners and connected organisations; impact on communities; and what lessons we can learn from the process of planning, developing, and delivering Intersectional Identities.

Critically evaluate all aspects of our work, creative, strategic, and discourse. This will result in a publicly available evaluation document alongside the formal Arts Council Wales project completion report.

To write/compile a digital document with written text sharing the evaluation, video interviews (in BSL, English, and Welsh), and photographs. This will be supported by the Executive Producer and Producer. 

Essential:

  • Passionate about the arts and creativity 

  • Self-Employed status

  • Track record and demonstrable experience in monitoring, research and critical evaluation in any field 

  • Available to work flexibly and remotely for the whole of 2022

  • A team player, self-motivated and highly organised

  • Strong communication skills

  • A willingness to learn

  • A creative thinker

Desirable

  • Experience in evaluating long-term arts/cultural projects

  • Experience of family theatre, dance, and/or multilingual work

  • Identify as Black, non-black person of colour, Deaf, disabled and/or Welsh speaking

We welcome all applications from people of all backgrounds and levels of experience and particularly from those who identify as Black, non-black people of colour, Deaf, disabled and/or Welsh Speaking

Access 

There is an additional access budget available to support your work on this project if you identify as disabled and/or D/deaf. 

Applicants are encouraged to get in touch with any questions or to discuss any disability and/or D/deaf access support required  in order to apply and partake in the selection conversation. 

If contracted you may wish to complete and submit an access rider when returning your signed letter of engagement to inform us of any access needs. An access rider template and further information can be found at https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc

How to Apply

Please read the project information below and then tell us about yourself.

What do you think about the project?

Why do you want to be involved?

Tell us about you and your skills and what you will bring to the role.

You can do this by:

·       Video maximum 3 minutes

·       Audio Recording maximum 3 minutes

·       Covering Letter (500 words max)

We welcome all applications from people of all backgrounds and levels of experience and particularly from those who identify as Black, non-black people of colour, Deaf, disabled and/or Welsh Speaking

Please do not send CVs.

Please send all applications to Krystal S. Lowe krystalslowe.contact@gmail.com and also contact Krystal beforehand if you have any questions. 

 

Project Information: 

Throughout the next 18-months, project partners, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe,  National Dance Company Wales, Taking Flight Theatre Company, and The Royal Society for the Protection of Birds will develop new audiences, participants, and artists, with specific focus on the intersections of D/deaf, Black, and Welsh speaking people. 

We will create intersectional approaches to sharing, producing, and discussing ‘arts & culture’. Explore how outdoor spaces can be used to enhance wellbeing, promote environmental sustainability, and cultural inclusion. Build new, long lasting relationships between organisations/freelancers from different contexts; and promote dance as an inclusive, accessible artform.

The drive towards equity in the arts has led to many projects focusing on a single aspect of exclusion. However, many people hold more than one protected characteristic (intersectionality/layering), and non-white, non-male people are at additional risk of exclusion in all characteristics. This project addresses the lack of intersectionality/layering in mainstream cultural production with specific attention to the Black/D/deaf/Welsh speaking intersections. We have located part of the project in outdoor spaces to address the absence of intersectional experiences/narratives in public spaces. Whilst the benefits of access to green spaces on wellbeing are well documented, they are mostly monocultural-spaces.

We expect one outcome of this project to be a diverse group of artists, and organisations who are able to co-create with communities. We hope the community relationships will extend beyond the 18 month duration of the project, leading to innovative co-created projects in the future. By living our values of equity, and co-creation, will we draw on the combined knowledge of all contributors ensuring artistic integrity. 

 
 

Intersectional Identities / Hunaniaethau Croestoriadol is funded by Arts Council Wales, Welsh Government, and National Dance Foundation of Bermuda.

funding strip landscape colour.jpg
NDFB  48x36 (002).jpeg