Welsh and English Below
Call-out for Four Freelance Part-Time Movement Practitioners
British Sign Language Video
English Below
Chwlio am bedwar Ymarferwr Symud Rhan-amser Rhydd-gyfrannol
Rydym yn chwilio i ymgysylltu a datblygu amrywiaeth o weithwyr rhydd-gyfrannol er mwyn profi dulliau a phrosesu amlieithog ac amlddiwylliannol ymhellach drwy gyfrwng gweithdai i bobl ifanc.
Dyma swyddi rhydd-gyfrannol wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Tâl Rhydd Gyfrannol: £1875
Dyddiad Cau gwneud cais: Ebrill 1, 2022
Cyfnod Amser:
Penodiad erbyn Ebrill 18
Gorffennaf 4-15 Hyfforddiant Ymarferwr x 2 wythnos ( a 3 Dydd Sul yn cyfranogi/hwyluso yn Ysgol Arwyddo Sul Canolfan y Byddar fel rhan o hyfforddiant a throsglwyddiad)
Digwyddiadau Gorffennaf 30 & 31 - Digwyddiadau Awyr Agored Ymgysylltu Cymunedol yr RSPB
Prif Ddyletswyddau:
Caiff ymarferwyr eu hyfforddi, cefnogi a rheolaeth llinell gan Reolwr y Project & Cynhyrchydd (Krystal S. Lowe).
- Datblygu cynnig gweithdy ar y cyd er mwyn ei gyflenwi ymhob digwyddiad Ymgysylltu Cymunedol yr RSPB ac Ysgol Arwyddo Sul Canolfan y Byddar.
- Cyd-greu, gyda chyfranogwyr, ymateb creadigol (symudiad, iaith arwyddo, siarad) i themâu o hunaniaeth a gofal am natur.
- Hwyluso a chymryd rhan mewn sesiynau symud gyda chyfranogwyr o Ysgol Arwyddo Sul Canolfan y Byddar.
- Hwyluso, a chymryd rhan mewn, sesiynau symud gydag aelodau o’r cyhoedd mewn Digwyddiadau Ymgysylltu Cymunedol yr RSPB.
Hanfodol:
Y gallu i fod wedi eich lleoli yng Nghaerdydd.
Teimlo’n angerddol am y celfyddydau a chreadigrwydd
Parodrwydd i ddysgu.
Yn hyderus i chwilota dulliau symud
Hyfforddi (gan gynnwys hunan-ddysgedig) mewn ffurf/dull o symud
Dymunol:
Yn uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, B/byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg
Profiad mewn dawns a/neu theatr
Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc
Profiad o hwyluso gweithdai (o unrhyw fath)
Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg
Cyrchu Mynediad
Mae yna gyllideb cyrchu mynediad ychwanegol ar gael i gefnogi eich gwaith ar y project hwn os ydych yn uniaethu fel person anabl neu B/byddar.
Anogir ymgeiswyr ddod i gyswllt gydag unrhyw gwestiynau neu i drafod unrhyw anabledd a/neu gymorth mynediad B/byddar a allai fod ei angen er mwyn ymgeisio a chymryd rhan yn y sgwrs ar ddethol.
Os cewch eich contractio efallai y byddwch yn dymuno llenwi a chyflwyno ffurflen atodol cyrchu mynediad, wrth ddychwelyd eich llythyr ymrwymo wedi’i lofnodi, er mwyn ein hysbysu o unrhyw anghenion mynediad. Gellir dod o hyd i batrymlun ffurflen atodol cyrchu mynediad a gwybodaeth bellach yn https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc
Sut i wneud cais
Byddwch cystal â darllen yr wybodaeth ynglŷn â’r project isod ac yna sôn wrthym amdanoch chi eich hun.
Beth ydych chi’n ei feddwl o’r project?
Pam ydych chi eisiau bod yn rhan ohono?
Dywedwch wrthym amdanoch chi a’ch medrau a’r hyn a gymerwch i’r swydd.
Gallwch wneud hyn drwy:
Fideo Uchafswm o 3 munud
Recordiad Sain Uchafswm o 3 munud
Llythyr eglurhaol (uchafswm o 500 o eiriau)
Croesawn geisiadau gan bobl o bob cefndir a lefelau o brofiad ac yn enwedig gan y sawl sy’n uniaethu fel person Du, person o liw sydd heb fod yn ddu, Byddar, Anabl a/neu sy’n Siarad Cymraeg
Byddwch cystal â pheidio ag anfon manylion gyrfa.
Anfonwch bob cais i Krystal S. Lowe krystalslowe.contact@gmail.com a theimlwch yn rhydd hefyd i ddod i gyswllt â Krystal os oes gyda chi unrhyw gwestiynau cyn ymgeisio.
Gwybodaeth ynglŷn â’r project
Drwy gydol y 18-mis nesaf, bydd y partneriaid project, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Taking Flight, a’r Gymdeithas Frenhinol dros Warchod Adar yn datblygu cynulleidfaoedd newydd, cyfranogwyr, ac artistiaid, gyda ffocws penodol ar groestoriadau pobl B/byddar, Du a Chymraeg eu hiaith.
Byddwn yn creu dulliau croestoriadol o rannu, cynhyrchu, a thrafod ‘celfyddydau & diwylliant’. Byddwn yn chwilota sut mae defnyddio mannau agored i wella llesiant, hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, a chynhwysiad diwylliannol. Adeiladwn berthnasau newydd a hirhoedlog rhwng sefydliadau /gweithwyr llawrydd o wahanol gyd-destunau; a hyrwyddo dawns fel ffurf gelfyddydol gynhwysol a hygyrch.
Mae’r gyriant tuag at gydraddoldeb yn y celfyddydau wedi arwain at nifer o brojectau yn canolbwyntio ar un agwedd o allgau. Fodd bynnag, mae gan nifer o bobl mwy nag un nodwedd warchodedig (haenu), ac mae risg ychwanegol y bydd pobl nad sy’n wyn, sydd ddim yn wrywod yn cael eu hallgau ymhob nodwedd (croestoriadedd). Mae’r project hwn yn cyfeirio at y diffyg croestoriadedd/haenu mewn cynyrchiadau diwylliannol prif ffrwd ac yn talu sylw arbennig at groestoriadau Du/B/byddar/Cymraeg. Rydym wedi lleoli rhan o’r project mewn mannau awyr agored er mwyn cyfeirio at absenoldeb profiadau/hanesion croestoriadol mewn mannau cyhoeddus. Tra bod budd cael mynediad i natur ar lesiant wedi ei ddogfennu’n helaeth, maen nhw’n fannau un-ddiwyllianol gan fwyaf.
Disgwyliwn mai un deilliant o’r project hwn fydd cael grŵp amrywiol o artistiaid a sefydliadau a all gyd-greu gyda chymunedau a gafodd eu hymylu. Gobeithiwn bydd y perthnasau cymunedol yn ymestyn tu hwnt i gyfnod 18 mis y project, gan arwain at brojectau arloesol a grëwyd ar y cyd yn y dyfodol. Drwy fyw ein gwerthoedd o degwch a chyd-greu, byddwn yn tynnu ar wybodaeth gyfunol ein holl gyfranwyr a sicrhau unplygrwydd artistig drwy hynny.
Welsh Above
Call out for Four Freelance Part-Time Movement Practitioners
We are seeking to engage and develop a diversity of freelance ‘Movement Practitioners’ to further test methods of a multilingual, multicultural approach and process through workshops with young people.
These are freelance roles based in Cardiff.
Freelance fee: £1875
Deadline to apply: April 1 2022
Timeline: Appointed by April 18 2022
10 days of Practitioner Training (Mon-Fri: July 4-15)
3 x half days facilitating and participating in workshops at Deaf Hub’s Sunday Sign School (July 3rd, 10th, and 17th)
2 days facilitating at the Outdoor RSPB Community Engagement Events (July 30-31)
Main Duties:
Practitioners will be trained, supported and line managed by the Project Manager & Producer (Krystal S. Lowe).
During training weeks you will collaboratively develop a workshop which will be delivered at RSPB Community Engagement Events.
Facilitate and participate in movement sessions with participants of Deaf Hub’s Sunday Sign School.
Facilitate and participate in movement sessions with members of the public at RSPB Community Engagement Events.
Essential:
Ability to be Cardiff based (Support will be given to those travelling a significant distance)
Passionate about the arts and creativity
A willingness to learn
Confident in movement styles
Training (including self-taught) in a form/style of movement
Desirable:
Identify as Black, non-black person of colour, D/deaf, disabled and/or Welsh speaking
Experience in dance and/or theatre
Experience working with children and young people
Experience facilitating workshops (of any kind)
We welcome all applications from people of all backgrounds and levels of experience and particularly from those who identify as Black, non-black people of colour, Deaf, disabled and/or Welsh Speaking
Access
There is an additional access budget available to support your work on this project if you identify as disabled and/or D/deaf.
Applicants are encouraged to get in touch with any questions or to discuss any disability and/or D/deaf access support required in order to apply and partake in the selection conversation.
If contracted you may wish to complete and submit an access rider when returning your signed letter of engagement to inform us of any access needs. An access rider template and further information can be found at https://www.accessdocsforartists.com/what-is-an-access-doc
How to Apply
Please read the project information below.
Tell us about yourself.
What do you think about the project?
Why do you want to be involved?
Tell us about you and your skills and what you will bring to the role.
You can do this by:
· Video (maximum 3 minutes)
· Audio Recording (maximum 3 minutes)
· Covering Letter (500 words max)
We welcome all applications from people of all backgrounds and levels of experience and particularly from those who identify as Black, non-black people of colour, Deaf, disabled and/or Welsh Speaking
Please do not send CVs.
Please send all applications to Krystal S. Lowe <krystalslowe.contact@gmail.com> and also contact Krystal beforehand if you have any questions.
Project Information:
What is Intersectionality? In the context of this project, Intersectionality is relating to a person holding multiple protected characteristics at once i.e. a Black, disabled woman.
The ‘Movement Sessions’ are one important element of a longer, ongoing project with six partners, outlined below.
Throughout the next 18-months, project partners, Deaf Hub Wales, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Krystal S. Lowe, National Dance Company Wales, Taking Flight Theatre Company, and The Royal Society for the Protection of Birds will develop new audiences, participants, and artists, with specific focus on the intersections of D/deaf, Black, and Welsh speaking people.
Part of this is changing the way we facilitate movement workshops to participants of all ages. The ‘Movement Practitioners’ work will be vital in working towards the project’s overall objectives.
We will create intersectional approaches to sharing, producing, and discussing ‘arts & culture’. Explore how outdoor spaces can be used to enhance wellbeing, promote environmental sustainability, and cultural inclusion. Build new, long lasting relationships between organisations/freelancers from different contexts; and promote dance as an inclusive, accessible artform.
The drive towards equity in the arts has led to many projects focusing on a single aspect of exclusion. However, many people hold more than one protected characteristic (intersectionality/layering). This project addresses the lack of intersectionality/layering in mainstream cultural production with specific attention to the Black/D/deaf/Welsh speaking intersections. We have located part of the project in outdoor spaces to address the absence of intersectional experiences/narratives in public spaces. Whilst the benefits of access to green spaces on wellbeing are well documented, they are mostly monocultural-spaces.
We expect one outcome of this project to be a diverse group of artists, and organisations who are able to co-create with communities. We hope the community relationships will extend beyond the 18 month duration of the project, leading to innovative co-created projects in the future. By living our values of equity, and co-creation, will we draw on the combined knowledge of all contributors ensuring artistic integrity.