Krystal driftwood trees Dec 21 7525sm.jpg

Writer

OSIAN MEILIR (Guest Writer) - Ein Hanes Ni / The History of Us

Blogbyst Ein Hanes Ni - by Osian Meilir

Yn Gymraeg:

Scroll down for English.

Ar yr adeg pan wnes i ymgeisio am Ein Hanes Ni, fe fydden i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud fy mod yn hyderus yn fy ngallu i gynnal gweithdai a gafodd eu cynllunio a’u gyrru gan fy syniadau a fy niddordebau innau. Fodd bynnag, yr ansicrwydd hwn a’r hunan-amheuaeth yw’r rheswm pam wnes i hyn yn y lle cyntaf. Roeddwn yn barod i herio fy hun i ddadansoddi fy ymarfer ac archwilio ymhellach a rhannu’r syniadau hyn gydag artistiaid eraill.

Mae’r term ‘ymarfer artistig’ yn aml yn un sy’n fy nigalonni fel artist dawns ar ddechrau ei yrfa. Mae yna synnwyr o orfod bod yn huawdl a chroyw, gan wybod yn union sut mae fy syniadau a diddordebau’n bwydo mewn i fy ngwaith ac yn cael eu cynrychioli yn y gwaith dawns a symudiad a wnaf. Fodd bynnag, drwy gydol y broses hon fe ddes i i sylweddoli mai rhywbeth sydd gyda chi ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio a’r modd y byddwch yn ymgysylltu â hynny yn eich gwaith fel artist dawns yw ‘ymarfer’. Roedd yr ansicrwydd hwnnw a deimlais nid yn unig yn ymateb holl naturiol, ond yn rhywbeth angenrheidiol hefyd. Mae cael ymarfer a’i ddatblygu yn golygu darganfod, chwilota a chanfod pethau, ac mae hynny’n galw am synhwyro rhywfaint o’r hyn sy’n anhysbys i ni.

Gan fod gen i ddiddordeb mewn diwylliant a hunaniaeth fel rhan o fy ymarfer, cael cyfnewidfa ddiwylliannol o ymarfer dawns a symudiad rhwng artistiaid o Bermwda a Chymru oedd yr hyn wnaeth ennyn fy niddordeb cychwynnol ynglŷn â’r project. Dyma gyfle i gwrdd ag artistiaid eraill o ochr arall y byd - cyfle prin ac un prynach fyth o ystyried ein bod yn byw drwy bandemig ar hyn o bryd. Rwyf wedi mwynhau dysgu am ymarfer Anya, Marcus a Tianshi yn arw, drwy gymryd rhan yn eu gweithdai a’u trafodaethau, a dysgu am fy hun eithaf cymaint ag am ein gilydd.

SESIWN 1 / SESSION 1

Yn fy sesiwn gyntaf roeddwn am ddilyn syniad sydd wedi bod gen i ers amser maith, sef creu symudiad ecstatig gan ddefnyddio camau a phatrymau dawnsio gwerin er mwyn cychwyn dilyniannau symudiad drwy fy nghorff. Roeddwn yn ansicr sut yn union i fynegi union arddull y symudiad yr oeddwn yn dymuno ei greu, felly, fe ddyfeisiais weithdy fyddai, gobeithio, yn cyflenwi’r wybodaeth angenrheidiol fel blociau adeiladu er mwyn cynhyrchu’r canlyniad yr oeddwn yn gobeithio amdano ar y diwedd.

Fy mhrif gwestiwn ymholi ar gyfer y sesiwn gyntaf oedd: sut ydw i’n cyfuno technegau dilyniannu gyda chamau a phatrymau dawnsio gwerin Cymreig er mwyn creu ail-ddelweddu cyfoes?

Fy nghwestiwn ar y diwedd ar gyfer y sawl a gymerodd rhan oedd: pa mor llwyddiannus a defnyddiol oedd y syniad o ddilyniannu wrth ganfod mynegiant a/ neu ryddid yn ystod yr archwiliad dawns-werin?

Fe ges i ymateb cadarnhaol gan Tianshi, Marcus ac Anya bod y gweithdy symud wedi annog meddwl yn ddyfnach ac ystyriaeth o sut mae dilyniannau symudiad yn teithio drwy’r corff a bod y cymal dawnsio gwerin, wedi’i gyfuno gyda thechnegau dilyniannu, wedi galw ar deimladau o lawenydd, dathliad a rhyddid gwirioneddol.

Wrth fyfyrio ar hyn, fe ddylwn fod wedi talu mwy o sylw wrth wylio ac arsylwi ar y dawnswyr eraill yn gweithio gyda fy syniadau i gael gwell dealltwriaeth o sut oedd yr wybodaeth roeddwn yn ei roi yn cyfieithu ac ymddangos ar eu cyrff - yn anffodus roeddwn i ychydig yn rhy nerfus. Gobeithio y byddaf yn gallu gwylio’r recordiad yn ôl er mwyn cael gwell dealltwriaeth o hyn. Fe ddysgais hefyd bod gollwng  y rhythm caeth a ddefnyddiais fel sail i fy archwiliad, yn agor posibiliadau o ffyrdd newydd o symud, ac i fwynhau’r rhyddid hwnnw, ei adael i ddatblygu tu hwnt i’r hyn roeddwn yn ceisio ei gyflawni. Fe ddes i i sylweddoli os ydw i am ddatblygu dawns werin Gymreig mewn i dechneg cyfres o fath, fod angen i fi dorri lawr y gwahanol gamau a phatrymau ymhellach fyth a gwneud nodyn o’r holl wahanol bosibiliadau o ddilyniannu o bob symudiad unigol. Fodd bynnag, fel strwythur gweithdy cyffredinol a gyflwynodd fy maes ymarfer, roeddwn yn bles gyda sut aeth hi.

SESIWN 2 / SESSION 2

Yn fy ail sesiwn roeddwn i am ddechrau drwy chwilota’r berthynas rhwng Diwylliant a Natur, gan ddarllen o The Idea of Culture gan Terry Eagleton, a sut mae hyn yn egluro ein perthynas gyda’r hyn sydd o’n cwmpas. Dyfeisiais gyfres o dasgau ar gyfer y sesiwn arbennig yma fel ymgais i gorffori’r berthynas rhwng pobl a lle. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn sut mae’r gwahanol lefydd a welwn yn gartref yn dylanwadu arnom ni fel unigolion, yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn symud a sut y byddwn yn ymgysylltu gyda phobl eraill a’r hyn sydd o’n cwmpas.

Dyma’r canlyniadau/ymatebion a gafwyd i’r ymchwil ac archwiliad hwnnw:

Fy mhrif ymholiad ar gyfer oes y project oedd i geisio darganfod ffordd o gorffori ein hymdeimlad a synnwyr o Ddiwylliant a Hunaniaeth. Ceisiais gyflawni hyn drwy chwilota’r canlynol:

- Diwylliant gwerin / dawns werin 

- Y traddodiad llafar- rhannu storïau 

- Canfod cysylltiadau o fewn y corff - technegau dilyniannu 

- Cysylltu â’r gofod o’n hamgylch

- Symud gyda synnwyr o gartref

IAITH / LANGUAGE

Roedd cael y cyfle i fynegi fy ymarfer artistig yn y Gymraeg yn werthfawr iawn i mi. Ers i mi fod yn iau mae fy siwrne fel dawnsiwr wedi cael ei arwain yn bennaf yn Saesneg. Nawr rwy’n gweithio yn y sector ddawns yng Nghymru ac yn cael cyfleodd i weithio yn y Gymraeg, rwy’n ei gweld hi’n llawer anoddach i fynegi fy syniadau a fy meddyliau am ddawns yn y Gymraeg. Er bod y Gymraeg yn iaith gyntaf i mi, ac rwy’n gwbl rugl yn y Gymraeg, roedd dod i’r afael gyda thermau Cymraeg i drafod dawns mewn cyd-destun proffesiynol yn sialens.

Yn ystod prosiect Ein Hanes, ches i ddim mo'r cyfle i weithio gyda chyfieithydd, profiad newydd i mi, ond cyfle arbennig i ymarfer datblygu terminoleg i allu cyfathrebu fy ymarfer creadigol yn llwyddiannus yn y Gymraeg. Roeddwn yn benderfynol o gyfieithu fy hun wrth fynd ymlaen ar y cychwyn, i wneud yn siŵr bod y sesiynau yn llifo - rhywbeth sy’n bwysig mewn sesiynau dawns yn aml. Bosib fy mod hefyd yn rhy warchodol o fy syniadau fy hun, ac am iddynt gael ei throsglwyddo i’r cyfranwyr yn gywir ac yn gyfatebol gyda fy nghynllun ar gyfer y sesiwn.

Ar gyfer yr ail sesiwn nes i weithio bron yn uniaith Gymraeg. Roedd y profiad yma yn un heriol tu hwnt. Fe ddaeth i’r amlwg drwy’r broses fod gan ddawnswyr ieithwedd benodol iawn, ac efallai bod yr iaith Gymraeg heb ddatblygu yn unol gyda therminoleg y byd dawns. Er y rhwystredigaeth, roedd yn braf cael gweithio a dawnsio yn fy mamiaith a dysgu o’r profiad hwnnw wrth fynd ymlaen gyda fy ymarfer artistig i’r dyfodol.

—————————————————————————————————————————————————————————


In English:

The History of Us Blog Post - by Osian Meilir

When applying for Ein Hanes Ni I’d be lying if I said that I felt confident in my ability to deliver workshops designed and fueled by my own ideas and interests. However, this exact uncertainty and self-doubt is the reason why I took the plunge to begin with. I was ready to challenge myself into having to analyze my own practice, investigate further and share these ideas with other artists.

The term ‘artistic practice’ is often a daunting one for me as an early-career dance artist. There’s a sense of having to be articulate, to know exactly how my interests and ideas feed into my work and is represented in the dance and movement work I do. However, throughout this process I came to realize that a ‘practice’ is simply what you’re interested in developing and researching as a dance artist and the way you go about engaging with that in your work. That uncertainty I felt was not only a completely natural reaction, but also necessary. Having and developing a practice is all about discovering, exploring and finding things out, which requires a certain (or uncertain) sense of the unknown.

Being interested in culture and identity as a part of my practice, a cultural exchange of dance and movement practice between Bermudian and Welsh-speaking artists was what initially intrigued me about the project. An opportunity to meet other artists from across the globe - a rare opportunity, and an even rarer opportunity considering we’re living through a global pandemic. I have thoroughly enjoyed learning about Anya, Marcus and Tianshi’s practices through partaking in their workshops and discussions, learning about myself just as much as learning about each other.

SESIWN 1 / SESSION 1

In my first session I wanted to pursue an idea I have had for a very long time, to create ecstatic movement using folk dance steps and patterns to initiate sequences of movement through the body. I was unsure how exactly to articulate the exact style of movement I wanted to create, therefore, I devised a workshop that would hopefully deliver the necessary information as building blocks in order to produce the end result I was hoping for.

My main inquiry question for the first session was: how do I combine sequencing techniques with traditional Welsh folk dance steps and patterns to create a contemporary re-imaging?

My question at the end for the participants was: how successful and useful was the idea of sequencing in finding articulation and/or freedom during the folk-dance exploration?

I received a positive reaction from Tianshi, Marcus and Anya that the movement workshop encouraged deeper thinking and consideration of how movement sequences travel through the body and that the folk dancing phrase, combined with sequencing techniques, really evoked a feeling of joy, celebration and freedom.

In reflection, I should have been more attentive in watching and observing the other dancers working with my ideas to better understand how the information I was providing was translating onto their bodies – alas, I was a bit nervous. Hopefully I’ll be able to watch the recording back to gain a better understanding of this. I also learnt that letting go of the strict rhythm I used as a base for the exploration can open up possibilities for new ways of moving, and to enjoy that freedom, letting it develop beyond what I was trying to achieve. I came to the realization that if I am to develop Welsh folk dance into a contemporary technique of-sorts, I need to break down the different steps and patterns even further and make note of all the different possibilities of sequencing from each individual movement. However, as an overall workshop structure that presented an area of my practice, I was pleased with how it went.

SESIWN 2 / SESSION 2

In my second session I wanted to begin by exploring the relationship between Culture and Nature, reading from Terry Eagleton’s, The Idea of Culture, and how this explains our relationship to our own surroundings. For this particular session I devised a series of tasks as an attempt to physicalize the relationship between people and place. I’m particularly interested in how the different places we call home influence us as individuals, affect the way we move and how we engage with other people and our surroundings.

Here are the results/responses to that research and exploration:

My main enquiry for the duration of the project was to try and discover a way of physicalizing our own sense of Culture and Identity. I attempted to achieve this by exploring the following:

  • folk culture / folk dance

  • the oral tradition – sharing stories

  • finding connections within the body – sequencing techniques

  •  connecting with the space around us

  •  moving with a sense of home

IAITH / LANGUAGE

Roedd cael y cyfle i fynegi fy ymarfer artistig yn y Gymraeg yn werthfawr iawn i mi. Ers i mi fod yn iau mae fy siwrne fel dawnsiwr wedi cael ei arwain yn bennaf yn Saesneg. Nawr rwy’n gweithio yn y sector ddawns yng Nghymru ac yn cael cyfleodd i weithio yn y Gymraeg, rwy’n ei gweld hi’n llawer anoddach i fynegi fy syniadau a fy meddyliau am ddawns yn y Gymraeg. Er bod y Gymraeg yn iaith gyntaf i mi, ac rwy’n gwbl rugl yn y Gymraeg, roedd dod i’r afael gyda thermau Cymraeg i drafod dawns mewn cyd-destun proffesiynol yn sialens.

Yn ystod prosiect Ein Hanes Ni cefais y cyfle i weithio gyda chyfieithydd, profiad newydd i mi, ond cyfle arbennig i ymarfer datblygu terminoleg i allu cyfathrebu fy ymarfer creadigol yn llwyddiannus yn y Gymraeg. Roeddwn yn benderfynol o gyfieithu fy hun wrth fynd ymlaen ar y cychwyn, i wneud yn siŵr bod y sesiynau yn llifo – rhywbeth sy’n bwysig mewn sesiynau dawns yn aml. Bosib fy mod hefyd yn rhy warchodol o fy syniadau fy hun, ac am iddynt gael ei throsglwyddo i’r cyfranwyr yn gywir ac yn gyfatebol gyda fy nghynllun ar gyfer y sesiwn.

Ar gyfer yr ail sesiwn nes i weithio bron yn uniaith Gymraeg. Roedd y profiad yma yn un heriol tu hwnt. Fe ddaeth i’r amlwg drwy’r broses fod gan ddawnswyr ieithwedd benodol iawn, ac efallai bod yr iaith Gymraeg heb ddatblygu yn unol gyda therminoleg y byd dawns. Er y rhwystredigaeth, roedd yn braf cael gweithio a dawnsio yn fy mamiaith a dysgu o’r profiad hwnnw wrth fynd ymlaen gyda fy ymarfer artistig i’r dyfodol.






IMG_20210401_155529.png
Guest User