Whimsy’s Family Fun Day | Diwrnod Hwyl I’r Teulu Whimsy
31 July | Gorffennaf
Grange Pavilion, Grange Gardens, Cardiff
Join us at Grange Pavilion for a whole day of FREE FUN Activities!
Performances of dance theatre show Whimsy:
Whimsy is a 3-performer dance theatre show about a little girl who names herself. Whimsy loves nature and can see the beauty in everything around her, except herself. Through a day of adventures enjoying the freedom of flying with birds, bravery in running with squirrels, and graceful swimming with ducks, she’s able to finally see the beauty that was inside her all along. A fanciful work about love and respect for self and nature told through movement, music, and multilingual narration.
Whimsy will be performed by hip hop dancer and British Sign Language user Sarah Adedeji with writer/director Krystal S. Lowe and Welsh musician and actress Kizzy Crawford performing bilingual narration.
British Sign Language taster classes for families:
British Sign Language user Fosia Ibrahim will facilitate two British Sign Language Taster sessions for families to engage in together. Fosia will lead you through a few everyday signs to get you started on your language learning journey.
RSPB Nature themed activities:
RSPB Giving Nature a Home in the City project will lead families in mini explorations of nature in the city. Activities will offer British Sign Language interpretation.
Movement Workshops:
A diverse team of four movement practitioners will guide families through exploring movement together! Join Hanna, Mujib, Plamedi, and Dominika as they lead you in imaginative journeys of movement in nature.
Creative Sharing Sessions:
Join bilingual facilitator Molara Awen and British Sign Language user Emily Rose for Creative Sharing Sessions.This bilingual creative experience will ask you 'what is art?' and as you communicate, write, draw, paint, colour, and cutout you will begin to respond to the question along with Molara and Emily.
Every activity is completely free for families to drop in and created to ensure that the family can engage in the arts and nature together.
Ymunwch â ni ym Mhafiliwn Grange am ddiwrnod llawn o weithgareddau HWYL AM DDIM!
Perfformiadau o Whimsy – y sioe ddawns theatr:
Mae Whimsy yn sioe ddawns theatr ar gyfer 3 pherfformiwr yn adrodd hanes merch ifanc sy’n rhoi enw arni hi ei hun. Mae Whimsy wrth ei bodd gyda natur, ac yn gweld y prydferthwch ym mhopeth o’i hamgylch – heblaw ynddi hi ei hun. Trwy ddiwrnod o anturiaethau yn mwynhau’r rhyddid o hedfan gyda’r adar, dewrder wrth redeg gyda’r wiwerod, a nofio’n osgeiddig gyda’r hwyaid, o’r diwedd mae hi’n gweld y prydferthwch oedd ynddi hi ei hun o’r cychwyn cyntaf. Gwaith dychmygus yw hwn am gariad a pharch tuag at yr hunan a natur, yn cael ei adrodd drwy symudiadau, cerddoriaeth a thestun amlieithog.
Perfformir Whimsy gan Sarah Adedeji – dawnsiwr hip hop sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – ynghyd â’r awdur/cyfarwyddwr Krystal S. Lowe a Kizzy Crawford, cantores ac actor o Gymru, sy’n cyflwyno testun dwyieithog.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) – dosbarthiadau blasu ar gyfer teuluoedd:
Bydd Fosia Ibrahim, sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, yn hwyluso dwy sesiwn blasu Iaith Arwyddion Prydain y gall teuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd. Bydd Fosia yn eich arwain drwy ychydig o arwyddion bob-dydd i’ch rhoi ar ben y ffordd ar eich taith i ddysgu’r iaith.
Gweithgareddau’r RSPB ar Thema Natur:
Bydd prosiect yr RSPB, Rhoi Cartref i Natur yn y Ddinas, yn arwain teuluoedd ar deithiau byr i ddarganfod natur yn y ddinas. Bydd y gweithgareddau’n cynnig dehongliad mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Gweithdai Symud:
Bydd tîm amrywiol o bedwar ymarferydd symud yn arwain teuluoedd i archwilio symudiad gyda’i gilydd! Ymunwch â Hanna, Mujib, Plamedi a Dominika wrth iddyn nhw eich arwain drwy deithiau dychmygus o symudiadau ym myd natur.
Sesiynau Rhannu Creadigol:
Ymunwch â’r hwylusydd ddwyieithog Molara Awen ac Emily Rose, sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ar gyfer Sesiynau Rhannu Creadigol. Bydd y profiad creadigol, dwyieithog hwn yn gofyn i chi ‘beth yw celf?’; ac wrth i chi gyfathrebu, ysgrifennu, tynnu llun, peintio, lliwio a thorri allan, byddwch yn dechrau ymateb i’r cwestiwn yng nghwmni Molara ac Emily.