Our Voice 2025 | Ein Llais 2025

Our Voice 2025

Without risk, art cannot innovate; It cannot develop and the artist cannot realise their full potential.

 

This year’s Our Voice sharing promises to be an inspiring evening of creativity and connection! Our Voice Bursary recipient Aliyy Azad and writer Krystal S. Lowe will share excerpts from their works-in-progress, offering a glimpse into their creative journeys.

Afterward, we invite you to take part in our mic-less open mic! Whether you’re an experienced writer, just starting out, or simply write for the joy of it, we’d love to hear your work-in-progress. Or, if you prefer, just sit back, relax, and enjoy the readings.

Come for the stories, stay for the company and enjoy a warm cuppa and some sweet treats while you're here. Whether you're sharing your own writing or just soaking up the atmosphere, Our Voice Sharing 2025 is for everyone. We can’t wait to see you there!

BSL/ENG Interpretation by Sam Hopkins

 

Our Voice 2025 Sharing Artists

Aliyy Azad Malik is a Wales-based writer who enjoys researching as part of their writing process, focusing on human stories, spirituality, ecology, and community. Specialising on poetry and fiction, Aliyy develops their writing practice in many ways - from writing on train journeys to joining Literature Wales' 2024/2025 Representing Wales writer cohort. 


Aliyy’s Work-In-Progress

Two young women in love have family histories of surviving the India/Pakistan Partition. Though Partition is something they infrequently think about, the play explores the ways it has irrevocably affected their lives. On a sudden trip back to their ancestral land, they are forced to face the history of their families and the future of their relationship.

 


Krystal S. Lowe is a Bermuda-born, Wales-based self-published author, poet, short story and screenwriter whose work explores themes of intersectional identity, mental health and well-being, and empowerment. Through her extensive career as a dancer and choreographer she has had the pleasure of interweaving her writing with movement to create works for stage, public space, and film.

Krystal's Work-In-Progress

A Woman At Rest began as a poem commissioned for a collaborative online and print exhibition exploring life for Black artists living in Scotland and Wales. Over the past few months I have developed this poem into a monologue exploring the expectations and acceptance of pain and longsuffering in women and the role pleasure plays in fully realising our power and purpose in the world.

*A Woman At Rest' is a raw sharing of thoughts, struggles, and journey toward rest. It explores sexual pleasure, lessons learned from nature, and the intricacies of womanhood.

 

Our Voice 2025 sharing will take place Friday, March 28th from 6:00 - 7:30pm at Sherman Theatre.

Email literary@shermantheatre.co.uk to RSVP now!


Ein Llais 2025

Heb risg, ni all celf arloesi; ni all ddatblygu, ac ni all yr artist gyrraedd eu llawn botensial. 


Bydd digwyddiad rhannu Ein Llais eleni yn noswaith ysbrydoledig o greadigrwydd a chysylltiad! Yno, bydd Aliyy Azad – derbynnydd Bwrsari Ein Llais – a’r awdur Krystal S. Lowe yn rhannu detholiad o‘u gwaith-ar-waith, gan gynnig cipolwg i mewn i’w teithiau creadigol.

Ar ddiwedd y noson, mae croeso i chi gymryd rhan yn ein sesiwn meic agored di-feic! P’un ai a ydych chi’n ysgrifennwr profiadol, neu dim ond newydd ddechrau, neu’n ysgrifennu er pleser yn unig, byddem wrth ein bodd yn clywed eich gwaith-ar-waith. Neu, os dymunwch, gallwch eistedd yn ôl, ymlacio, a mwynhau’r darlleniadau. 

Dewch i wrando ar y straeon yng nghwmni pobl eraill, a mwynhau dishgled a danteithion melys. P’un ai a ydych chi’n rhannu eich gwaith eich hun, neu dim ond yn amsugno’r awyrgylch, mae digwyddiad Rhannu Ein Llais ar gyfer pawb. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr at eich gweld chi yno!



Artistiaid digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025

Mae Aliyy Azad Malik yn awdur wedi eu lleoli yng Nghymru; mae’n mwynhau ymchwilio fel rhan o’r broses o ysgrifennu, gan ffocysu ar straeon am bobl, ysbrydolrwydd, ecoleg, a chymuned. Gan arbenigo mewn barddoniaeth a ffuglen, mae Aliyy yn datblygu eu hymarfer ysgrifennu mewn nifer o ffyrdd – o ysgrifennu ar deithiau trên i ymuno â grŵp awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2024/2025. 


Gwaith-ar-waith Aliyy 

Mae gan ddwy fenyw ifanc sydd mewn cariad hanes teuluol o oroesi’r Rhaniad rhwng India a Phacistan. Er nad ydynt yn meddwl am y Rhaniad yn aml, mae’r ddrama’n archwilio’r effaith ddi-droi’n-ôl a gafodd ar eu bywydau. Ar daith sydyn yn ôl i wlad eu cyndeidiau, cânt eu gorfodi i wynebu hanes eu teuluoedd a dyfodol eu perthynas. 


Mae Krystal S. Lowe – a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru – yn awdur hunan-gyhoeddedig, bardd, ac awdur straeon byrion a sgriptiwr; mae ei gwaith yn archwilio themâu o hunaniaeth croestoriadol, iechyd meddwl a lles, a grymuso. Drwy ei gyrfa gynhwysfawr fel dawnsiwr a choreograffydd, mae hi wedi cael y pleser o blethu ei gwaith ysgrifenedig â symudiadau i greu gweithiau ar gyfer y llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm. 

Gwaith-ar-waith Krystal

Dechreuodd ‘A Woman At Rest’ fel cerdd a gomisiynwyd ar gyfer arddangosfa gydweithredol ar-lein ac mewn print yn archwilio bywydau artistiaid Du sy’n byw yn yr Alban a Chymru. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi datblygu’r gerdd hon yn fonolog sy’n archwilio disgwyliadau menywod, y modd maent yn derbyn poen a dioddefaint hir-dymor, a’r rôl mae pleser yn ei chwarae wrth i ni lawn sylweddoli ein pŵer a’n pwrpas yn y byd.

*Mewn dull gonest, mae ‘A Woman At Rest' yn rhannu meddyliau, ymdrechion, a thaith tuag at orffwys. Mae’n archwilio pleser rhywiol, gwersi a ddysgwyd o fyd natur, a chymhlethdodau benywdod.





Cynhelir digwyddiad rhannu Ein Llais 2025 ddydd Gwener, 28 Mawrth rhwng 6:00 a 7:30yh yn Theatr Sherman.

Ebostiwch literary@shermantheatre.co.uk i anfon RSVP nawr!