Movement Workshops

Movement Workshops

The role of the Movement Practitioners was to lead a series of live and digital family dance workshops. The Movement Practitioners had 10 development days to learn new skills and to collaboratively create workshops which were delivered both live, at Grange Pavilion, and digitally.

Movement Practitioner Development Days:

· Welsh Language lessons.

· British Sign Language lessons.

· ‘Socially Sound’ session: A Deaf Awareness workshop that explores the experiences of Deaf people with intersecting identities.

· Universal Design of Instruction session: A session which explores how to ensure people of all abilities are able to engage in dance.

· RSPB Session: A workshop which shared how RSPB staff lead nature-based activities.

· And each of the Movement Practitioners shared their own movement practice with each other.


Meet the Movement Practitioners!

Plamedi Santima-Akiso

My name is Plamedi Santima-Akiso; I am originally from Congo and currently live in Wales. I am a scientist, a youth leader, a STEM ambassador, and the founder of an afro dance organisation, AFJ Cardiff. I teach afro dance to embrace the beauty of the African culture, resulting in cultural appreciation while creating a community centred on diversity, originality and one that enables all to express themselves fully.

An image of Hanna, a white woman with brown, slicked back hair, wearing a pale pink jumper and smiling in a green field with bushes in the background.

Hanna Hughes

I’m a Welsh speaking freelance dancer from Cardiff. I trained at London Contemporary Dance School and have worked with choreographers including Wayne McGregor, Caroline Finn, Blanca Li and Ballet Cymru. I’ve also choreographed for Frân Wen Theatre, Urdd Gobaith Cymru and Sbarc, and have taught workshops for National Youth Dance Wales, Dawns i Bawb and Bath Spa University.

Dominica Rau

I’m a multidisciplinary artist based in Cardiff. Originally from Poland, my movement practice includes mime, physical theatre, contemporary and experimental dance. In 2016, I graduated from Aberystwyth University with a degree in Performance Art and Drama and Theatre Studies and received professional movement and acting training in Germany, France, Portugal and Denmark.

Sarah Adedeji

Sarah is a Black British Deaf Woman, born and raised in London by Nigerian parents. She is a creative (dancer, poet, writer), a digital content creator (Instagram and TikTok), and an Audiologist (graduated July 2022).

Abdulmujib Yahaya

As a creative practitioner, I have been involved in several art projects – planning, organising and delivering creative workshops around communities, for organisations, and as part of events. I know that through music and dance we can open spaces and possibilities for people from around the world to come together in conversations that will enhance their communities.

DIGITAL MOVEMENT WORKSHOPS

Free yourself like a bird and get your blood pumping, body shaking and mind creating in this short dance workshop.

Join Plamedi on an adventure to become a bird by learning a short routine and let the wind be your movement guide!

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop length: 8 minutes

Language: English

Access: English Subtitles

 

Have you ever wanted to fly like a bird? Well, spread your wings and soar into this short dance workshop; Mujib will show you how!

By learning a short routine, you will tap, swing, glide and slide your way into the life of a bird and watch yourself transform.

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop length: 7 minutes

Language: English

Access: English Subtitles.

 

Have you ever wanted to fly like a bird? Well, spread your wings and soar into this short dance workshop; Mujib will show you how! By learning a short routine, you will tap, swing, glide and slide your way into the life of a bird and watch yourself transform.

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop length: 7 minutes

Language: English

Access: English Subtitles and Audio Description in English by Hanna Hughes.

 

Scurry, scamper and search your way into your squirrel groove through this short dance workshop! Watch as Sarah teaches you five funky dance moves to form a short, swift dance routine and use your creativity to build your character and find your furry flair.

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear, safe habitat and some comfy clothes to scurry around in.

Workshop length: 7 minutes

Language: British Sign Language

Access: English Subtitles.

 

Discover your animal senses in a short dance workshop where you will scurry, scratch and scamper your way into a dance routine to find your furry flair. Be ready to wriggle, rotate, reach and build your confidence and creativity through performing in your own squirrel style.

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear, safe habitat and some comfy clothes to scurry around in.

Workshop length: 9 minutes

Language: English

Access: English Subtitles.

 

Let Hanna guide you through this creative audio movement workshop based on squirrels. Find your own furry flare as you scurry, crouch, swoop, reach and wriggle on your search for acorns.

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop Length: 7 minutes

Language: English

Access: Audio Described

 

Plummet into this short dance workshop and learn to dive like a duck!

In this short routine you’ll wriggle, waddle and slide along the water and learn some dancing skills to take back to your nest!

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop Length: 6 minutes 30 seconds

Language: Welsh

Access: English Subtitles.

 

Plummet into this short dance workshop and learn to dive like a duck! In this short routine you’ll wriggle, waddle and slide along the water and learn some dancing skills to take back to your nest!

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop Length: 6 minutes 30 seconds

Language: Welsh

Access: English Subtitles and Welsh Audio Description by Hanna Hughes

 

If you like the game ‘duck, duck, goose!’, you’re going to love learning how to ‘duck, duck, slide’ in this short dance workshop. Find your wings and fly through this short routine with Dominica as you swim into the life of a duck!

Additional Information: All you need is some water nearby, a clear safe space to dance in and some comfy clothes.

Workshop Length: 7 minutes

Language: English

Access: English Subtitles

Intersectional Identities / Hunaniaethau Croestoriadol is funded by Arts Council Wales, Welsh Government, and National Dance Foundation of Bermuda.


Rôl yr Ymarferwyr Symud oedd arwain cyfres o weithdai i deuluoedd, yn fyw ac yn ddigidol. Cafodd yr Ymarferwyr Symud 10 diwrnod datblygu i’w galluogi i ddysgu sgiliau newydd ac i weithio ar y cyd i greu gweithdai a gyflwynwyd yn fyw, ym Mhafiliwn y Grange, ac yn ddigidol.

Dyddiau Datblygu Ymarferwyr Symud:

· Gwersi Cymraeg.

· Gwersi Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

· Sesiwn ‘Socially Sound’: Gweithdy Ymwybyddiaeth o Fyddardod sy’n archwilio profiadau Pobl Fyddar a chanddynt hunaniaethau croestoriadol.

· Sesiwn Cynllun Hyfforddiant Cyffredinol: Sesiwn sy’n archwilio sut i sicrhau bod pobl o bob gallu yn medru ymgysylltu â dawnsio.

· Sesiwn yr RSPB: Gweithdy yn rhannu sut mae staff yr RSPB yn arwain gweithgareddau’n seiliedig ar fyd natur.

· Roedd pob un o’r Ymarferwyr Symud yn rhannu eu hymarfer symud â’i gilydd.

Dewch i Gwrdd â’r Ymarferwyr Symud!

Plamedi Santima-Akiso

Plamedi Santima-Akiso ydw i; rwy’n dod yn wreiddiol o’r Congo ac ar hyn o bryd rwy’n byw yng Nghymru. Rydw i’n wyddonydd, yn arweinydd ieuenctid, yn llysgennad STEM ac yn sefydlydd SFJ Cardiff, sef cymdeithas ddawns affro. Rydw i’n dysgu dawns affro er mwyn cofleidio prydferthwch y diwylliant Affricanaidd, sy’n arwain at werthfawrogiad diwylliannol tra’n creu cymdeithas sy’n seiliedig ar amrywiaeth a gwreiddioldeb ac yn galluogi pawb i’w mynegi eu hunain yn llawn.

Hanna Hughes

Dawnswraig lawrydd o Gaerdydd ydw i, ac rwy’n siarad Cymraeg. Cefais fy hyfforddi yn y London Contemporary Dance School ac rwyf wedi gweithio gyda nifer o goreograffwyr, yn cynnwys Wayne McGregor, Caroline Finn, Blanca Li a Ballet Cymru. Rwyf hefyd wedi coreograffu i Theatr y Frân Wen, Urdd Gobaith Cymru a Sbarc, ac wedi dysgu mewn gweithdai ar gyfer Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns i Bawb a Phrifysgol Bath Spa.

Dominica Rau

Artist amlddisgyblaethol ydw i, yn gweithio yng Nghaerdydd. Rwy’n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl, ac mae fy ymarfer symud yn cynnwys meim, theatr gorfforol, a dawns gyfoes ac arbrofol. Yn 2016, enillais radd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn y Celfyddydau Perfformio a Drama, ac Astudiaethau Theatr, a chefais hyfforddiant proffesiynol mewn symud ac actio yn yr Almaen, Ffrainc, Portiwgal a Denmarc.

Sarah Adedeji

Mae Sarah yn Fenyw Ddu Fyddar o Brydain; cafodd ei geni a’i magu yn Llundain gan rieni o Nigeria. Mae hi’n berson creadigol (dawnsiwr, bardd, awdur), yn creu cynnwys digidol (Instagram a TikTok), ac yn Awdiolegydd (graddiodd ym mis Gorffennaf 2022].

Abdulmujib Yahaya

Fel ymarferydd creadigol, rwyf wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau celfyddydol – yn cynllunio, trefnu a chyflwyno gweithdai creadigol o gwmpas cymunedau, ar gyfer sefydliadau, ac fel rhan o wahanol ddigwyddiadau. Drwy gyfrwng cerddoriaeth a dawns, gwn y gallwn agor gofodau a phosibiliadau i alluogi pobl ledled y byd i ymuno â’i gilydd mewn trafodaethau a fydd yn gwella eu cymunedau. 

GWEITHDAI SYMUD DIGIDOL:

Yn y gweithdy dawns byr hwn cewch fod yn rhydd fel aderyn, cyflymu curiad y gwaed, ysgwyd eich corff a rhoi cyfle i’ch meddwl greu.

Ymunwch â Plamedi ar antur i droi’n aderyn trwy ddysgu patrwm byr o symudiadau, gan adael i’r gwynt eich arwain!

Gwybodaeth Ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y Gweithdy: 8 munud

Iaith: Saesneg

Mynediad: Is-deitlau Cymraeg

 

Ydych chi erioed wedi dyheu am allu hedfan fel aderyn? Beth am ymestyn eich adenydd ac ymuno â’r gweithdy dawns byr hwn; bydd Mujib yn dangos i chi sut! Trwy ddysgu patrwm byr o symudiadau, byddwch yn tapio, siglo, gleidio a llithro’ch ffordd i mewn i fywyd aderyn, a gwylio’ch hun yn trawsnewid.

Gwybodaeth Ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y Gweithdy: 7 munud

Iaith: Saesneg

Mynediad: Isdeitlau Saesneg

 

Ydych chi erioed wedi dyheu am allu hedfan fel aderyn? Beth am ymestyn eich adenydd ac ymuno â’r gweithdy dawns byr hwn; bydd Mujib yn dangos i chi sut! Trwy ddysgu patrwm byr o symudiadau, byddwch yn tapio, siglo, gleidio a llithro’ch ffordd i mewn i fywyd aderyn, a gweld eich hun yn trawsnewid.

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y gweithdy: 7 munud

Iaith: Saesneg

Mynediad: Isdeitlau Saesneg a Sain-ddisgrifiad Saesneg gan Hanna Hughes.

 

Cewch ruthro, sgrialu a chwilio’ch ffordd i fyd y wiwer yn y gweithdy dawns byr hwn! Gwyliwch tra bod Sarah yn dysgu pump o symudiadau dawns ffynci i chi i ffurfio dawns fer, gyflym, yna cewch ddefnyddio’ch creadigrwydd i adeiladu eich cymeriad a dod o hyd i’r wiwer tu mewn i chi.

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; amgylchedd clir, diogel, a dillad cyfforddus i ruthro o gwmpas ynddyn nhw.

Hyd y gweithdy: 7 munud

Iaith: Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mynediad: Isdeitlau Saesneg

 

Cewch ddarganfod eich synhwyrau anifeilaidd mewn gweithdy dawns byr lle byddwch chi’n rhuthro, crafu a phrancio’ch ffordd trwy symudiadau dawns i chwilio am y wiwer y tu mewn i chi.

Byddwch yn barod i sleifio, troi ac ymestyn, ac adeiladu eich hyder a’ch creadigrwydd drwy berfformio yn eich dull wiweraidd eich hun.

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; amgylchedd clir, diogel, a dillad cyfforddus i ruthro o gwmpas ynddyn nhw.

Hyd y gweithdy: 9 munud

Iaith: Saesneg

Mynediad: Isdeitlau Saesneg

 

Gadewch i Hanna eich arwain drwy’r gweithdy symudiadau sain creadigol hwn yn seiliedig ar wiwerod. Cewch ddod o hyd i’ch doniau blewog wrth i chi sgrialu, gwyro, plymio, ymestyn a sleifio wrth chwilio am y mes.

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; amgylchedd clir, diogel, a dillad cyfforddus i ruthro o gwmpas ynddyn nhw.

Hyd y gweithdy: 7 munud

Iaith: Saesneg

 

Neidiwch i mewn i’r gweithdy dawns byr hwn a dysgu sut i blymio fel hwyaden!

Yn y ddawns fer hon cewch gyfle i ymdroelli, wadlo a llithro drwy’r dŵr, a dysgu rhai sgiliau dawnsio i fynd â nhw’n ôl i’ch nyth!

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y gweithdy: 6 munud 30 eiliad

Iaith: Cymraeg

Mynediad: Isdeitlau Cymraeg

 

Os ydych chi’n hoffi’r gêm ‘duck, duck, goose!’, byddwch wrth eich bodd yn dysgu’r symudiadau yn y gweithdy dawns byr hwn. Cewch ddod o hyd i’ch adenydd a hedfan drwy’r patrwm byr hwn o symudiadau gyda Dominica wrth i chi nofio i mewn i fywyd hwyaden!

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y gweithdy: 7 munud

Iaith: Saesneg

Mynediad: Isdeitlau Cymraeg

 

Neidiwch i mewn i’r gweithdy dawns byr hwn a dysgu plymio fel hwyaden!

Yn y gyfres fer hon o symudiadau cewch gyfle i ymdroelli, wadlo a llithro drwy’r dŵr, a dysgu rhai sgiliau dawnsio i fynd â nhw’n ôl i’ch nyth!

Gwybodaeth ychwanegol: Yr unig bethau y bydd arnoch eu hangen yw cael dŵr gerllaw; gofod clir, diogel i ddawnsio ynddo, a dillad cyfforddus i’w gwisgo.

Hyd y gweithdy: 6 munud 30 eiliad

Iaith: Cymraeg

Mynediad: Isdeitlau Saesneg a Sain-ddisgrifiad Cymraeg gan Hanna Hughes

Ariennir Hunaniaethau Croestoriadol / Intersectional Identities gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, a Sefydliad Dawns Cenedlaethol Bermuda.