Daughters of the Sea | Merched y Môr

A Ballet Cymru and Krystal S. Lowe Co-Production

Ballet Cymru and Krystal S. Lowe present a bold adaptation of the Welsh folktale Daughters of the Sea with music by Kizzy Crawford.

Every land has its tale, its origin story if you will . . .

Daughters of the Sea is a tapestry of multilingual spoken word, dynamic dance, and Kizzy Crawford’s soul, funk, and folk music fusion. Come with us as we tell the tale of three women from different lands – a warrior, a healer, and a leader – journeying to find new adventures until a surprising foe incites them to stand together and fight to protect the freedom to choose.

Photo Credit: Mefus Photography
Three women surround a pile of sand against a grey background. The woman in the back is white with blonde hair and kicks her leg high wearing a green tulle skirt and cream top. The woman on the right has brown skin and long dark wavy hair. She leans back against the third woman while she holds the train of her golden/bronze dress. The third woman has white skin and brown curly hair. She balances on the pile of sand with her legs in the air while leaning against the woman in gold. Her dress is cream.

Creative Team

Choreographer and Writer

Krystal S. Lowe

Krystal S. Lowe is a Bermudian, Wales-based dancer, choreographer, writer, and director performing and creating dance theatre works for stage, public space, and film. She has had an extensive career performing with Ballet Cymru, Ransack Dance, Citrus Arts circus company, Theatr Iolo, and Theatr Cymru.

Krystal has written short films for Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, and Arts Council Wales; Music Theatre Wales; the Space for BBC’s Culture in Quarantine; and BFI Network Wales. Alongside her screenwriting Krystal self-published a bilingual children’s book ‘Whimsy’ which sits in libraries in Wales and Bermuda. She has written articles for Wales Arts Review’s collaboration with The Guardian, People Dancing’s Animated Magazine, and contributed to Parthian Books’ ‘Woman’s Wales?’.

Composer

Kizzy Crawford

Kizzy Crawford is a South Wales-based singer-songwriter and producer known for blending jazz, folk, and funk. She began producing music at 14, while her sound has evolved, it still reflects the styles and intentions that have defined her music from the beginning.

She has performed at many renowned events and festivals including the London Jazz Festival, Glastonbury and The Great Escape, and her music has received airplay from BBC Radio Wales, BBC Radio 2, 6 Music, Jazz FM and more. In addition to her music, she has acting experience in theatre and TV including the title role in the award winning ‘Petula’ for National Theatre Wales.

Lighting Designer

Elanor Higgins

Elanor is a prolific Lighting Designer based in Wales. She’s  been lighting productions for Theatre, Opera, Dance, Musicals and Children’s Theatre for over 25 years and thrives from the collaborative nature and challenges each production brings.  

A graduate of the Royal Welsh College of Music and Drama, she returns as a guest lecturer and mentor in Stage Lighting.

She features in the new book Women in Entertainment Lighting by Collective Light, WIL.






Costume Designer

George H. Wale

George is an artist, designer and maker based in Abergavenny, South Wales. Their practice spans costume design, sculpture and performance, working on commissions in collaboration with choreographers as well as on their own independent projects. George’s costume design is graphic, concept driven and heavily informed by their background in movement and their training in the visual arts. George’s work has been platformed by organisations such as g39, Green Man Festival and National Dance Company Wales. Their costume work has been part of programmes that have toured nationally and internationally to leading institutions and festivals of dance.





Set Illustration

Jessie Begum

Jessie Begum is a freelance illustrator based in Cardiff, South Wales. She began her career creating online comics that explore themes like motherhood, cultural biases, and taboo topics within the South Asian community. Over time, her focus shifted toward illustrating children’s books, with a goal of broadening representation.

Her work gained momentum when her illustrations were featured in exhibitions and she was invited to join panel discussions, leading her to realise the impact of her art on a larger audience. As co-creator of Our Ramadan Calendar, Jessie aims to continue using her art to highlight underrepresented causes. Currently, she is working on her own books for young readers, with an emphasis on featuring characters from minority backgrounds.

Daughters of the Sea is funded by Arts Council Wales, Welsh Government, National Lottery, and Tŷ Cerdd.


Cyd-gynhyrchiad Ballet Cymru a Krystal S. Lowe

Mae Ballet Cymru a Krystal S. Lowe yn cyflwyno addasiad beiddgar o’r chwedl Gymreig Merched y Môr gyda cherddoriaeth gan Kizzy Crawford.

Mae gan bob gwlad ei stori – stori ei dechreuad, os mynnwch chi . . .

Mae Merched y Môr yn dapestri o’r gair llafar amlieithog, dawns ddynamig, a chyfuniad Kizzy Crawford o gerddoriaeth enaid/ffync/jazz. Dewch gyda ni wrth i ni adrodd hanes tair menyw o wledydd gwahanol – ymladdwr, iachäwr, ac arweinydd – sy’n teithio i ddod o hyd i anturiaethau newydd hyd nes bod gelyn annisgwyl yn eu hannog i gyd-sefyll a brwydro i amddiffyn y rhyddid i ddewis.

Credyd Lluniau: Mefus Photography
Mae tair menyw yn sefyll o gwmpas pentwr o dywod yn erbyn cefndir llwyd. Mae’r fenyw yn y cefn yn groenwyn a chanddi wallt golau, ac mae hi’n cicio’i choes yn uchel gan wisgo sgert o ddefnydd tulle gwyrdd, a thop lliw hufen. Croen brown a gwallt hir tywyll, tonnog sydd gan y fenyw ar y dde. Mae hi’n pwyso’n ôl yn erbyn y drydedd fenyw tra’n gafael yng ngodre ei ffrog lliw aur/efydd. Croen gwyn a gwallt brown cyrliog sydd gan y drydedd fenyw. Mae hi’n cydbwyso ar y pentwr o dywod a’i choesau yn yr awyr, tra’n pwyso yn erbyn y fenyw mewn ffrog aur. Mae ei ffrog hi o liw hufen.

Tîm Creadigol

Coreograffydd ac Awdur

Krystal S. Lowe

Mae Krystal S. Lowe – sy’n dod yn wreiddiol o Bermuda ac sydd bellach wedi’i lleoli yng Nghymru – yn ddawnsiwr, coreograffydd, awdur, a chyfarwyddwr sy’n perfformio a chreu gweithiau theatr ar gyfer y llwyfan, gofodau cyhoeddus, a ffilm. Mae hi wedi cael gyrfa eang yn perfformio gyda Ballet Cymru, Ransack Dance, cwmni syrcas Citrus Arts, Theatr Iolo, a Theatr Cymru.

Mae Krystal wedi ysgrifennu ffilmiau byr ar gyfer Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; Music Theatre Wales; the Space ar gyfer Culture in Quarantine y BBC; a BFI Network Wales. Ochr yn ochr â’i hysgrifennu ar gyfer y sgrin, mae Krystal wedi hunan-gyhoeddi llyfr dwyieithog i blant, sef ‘Whimsy’, sydd ar gael mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Bermuda. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cydweithrediad Wales Arts Review gyda phapur newydd The Guardian, Cylchgrawn Animeiddiedig People Dancing, a chyfrannu at gyfrol Parthian Books, ‘Woman’s Wales?’.


Cyfansoddwr

Kizzy Crawford

Mae Kizzy Crawford, sy’n dod o dde Cymru, yn gantores, cyfansoddwr caneuon, a chynhyrchydd sy’n adnabyddus am gyfuno cerddoriaeth jazz, gwerin, a ffync. Dechreuodd gynhyrchu cerddoriaeth yn 14 oed, ac er bod ei sain wedi esblygu, mae’n parhau i adlewyrchu’r arddulliau a’r bwriadau sydd wedi diffinio’i cherddoriaeth o’r cychwyn cyntaf.

Mae Kizzy wedi perfformio mewn nifer o ddigwyddiadau a gwyliau amlwg, yn cynnwys y London Jazz Festival, Glastonbury a The Great Escape, a chwaraewyd ei cherddoriaeth ar nifer o orsafoedd radio megis BBC Radio Wales, BBC Radio 2, 6 Music, Jazz FM a mwy. Yn ogystal â’i gwaith fel cerddor, mae ganddi hefyd brofiad actio yn y theatr ac ar y teledu, yn cynnwys rôl y teitl yn y cynhyrchiad arobryn ‘Petula’ gyda National Theatre Wales.

Cynllunydd Goleuo

Elanor Higgins

Mae Elanor yn Gynllunydd Goleuo cynhyrchiol sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Bu’n goleuo cynyrchiadau ar gyfer Theatr, Opera, Dawns, Sioeau Cerdd a Theatr Plant am dros 25 mlynedd, ac mae hi wrth ei bodd gyda’r naws gydweithredol a’r heriau a ddaw yn sgil pob cynhyrchiad.

A hithau wedi graddio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae hi’n dychwelyd yno fel darlithydd gwadd a mentor mewn Goleuo Llwyfan.

Mae hi wedi cyfrannu at y llyfr newydd Women in Entertainment Lighting gan Collective Light, WIL.

Cynllunydd Gwisgoedd

George H. Wale

Mae George yn artist, cynllunydd a gwneuthurwr sydd wedi’u lleoli yn Y Fenni, de Cymru. Mae eu hymarfer yn cynnwys cynllunio gwisgoedd, cerflunio a pherfformio, a gweithio ar gomisiynau mewn cydweithrediad â choreograffwyr, yn ogystal ag ar eu prosiectau annibynnol eu hunain. Mae cynlluniau gwisgoedd George mewn arddull graffig, wedi eu gyrru gan gysyniad, a than ddylanwad trwm cefndir George mewn symudiadau a’u hyfforddiant yn y celfyddydau gweledol.  Llwyfannwyd gwaith George gan sefydliadau megis g39, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae eu gwaith ar wisgoedd wedi bod yn rhan o raglenni sydd wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i sefydliadau pwysig a gwyliau dawns.

Dyluniad Set

Jessie Begum

Mae Jessie Begum yn ddarlunydd llawrydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, de Cymru. Dechreuodd ei gyrfa trwy greu comics ar-lein yn archwilio themâu megis mamolaeth, rhagfarnau diwylliannol, a phynciau tabŵ o fewn cymuned De Asia. Dros amser, symudodd ei ffocws tuag at ddarlunio llyfrau plant, gyda’r nod o ehangu cynrychiolaeth.

Dechreuodd ei gwaith ennill momentwm pan gafodd ei darluniau eu cynnwys mewn arddangosfeydd; cafodd wahoddiad i ymuno â thrafodaethau panel, gan ei harwain i sylweddoli effaith ei chelfyddyd ar gynulleidfa fwy niferus. Fel cyd-grëwr Our Ramadan Calendar, nod Jessie yw parhau i ddefnyddio’i chelf i dynnu sylw at achosion a dangynrychiolir. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar ei llyfrau ei hun ar gyfer darllenwyr ifanc, gyda phwyslais ar gynnwys cymeriadau o gefndiroedd lleiafrifol.

Ariennir Daughters of the Sea gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, y Loteri Genedlaethol, a Tŷ Cerdd.