Anabledd a Dysgu Cymraeg is a 1-year Arts Council Wales funded Llais y Lle (The Voice of Place) project which aims to develop a Welsh language teaching pedagogy using creative writing to support people for whom the aural, verbal, and social communicative elements of traditional Welsh language learning environments is inaccessible.
Throughout the year we will gather together monthly at The Place, Newport to explore ways in which we learn best and how that can be applied to learning Welsh through creative writing.
Following a 6-month period of exploration and a public sharing and gathering of feedback lead artists Krystal S. Lowe and Nia Gandhi will spend 2-months drafting a Creative Writing syllabus for developing Welsh language acquisition and confidence.
The final 4-months of the project will be spent trailing, testing, and re-drafting this syllabus.
At every step of the way, our community of disabled creatives will be at the forefront of the decision-making process not only in the two lead creatives but with those we bring along the way.
Anabledd a Dysgu Cymraeg aims to empower and equip disabled creatives with the skills to develop the use of the Welsh language in their artistic practice and build greater connections in Welsh language arts to ensure a sustained development. The legacy of Anabledd a Dysgu Cymraeg is to offer a Welsh language teaching pedagogy which can be shared with creative writing practitioners throughout Wales to enable more inclusive and creative Welsh language learning opportunities for disabled artists to develop bilingual and Welsh language work.
Krystal S. Lowe | Nia Gandhi | Emily Corby | Nadia Nur | Safyan Iqbal
Consulting Creatives
Kizzy Crawford | Tom Bevan | Sarah Gregory | Amber Howells
Supported by The Place, Newport and Literature Wales
Anabledd a Dysgu Cymraeg
Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Brosiectau Cyngor Celfyddydau Cymru, Llais y Lle
Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Llais y Lle (The Voice of Place), sef prosiect un flwyddyn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru; ei nod yw datblygu addysgeg dysgu’r Gymraeg gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol i gefnogi pobl lle nad yw’r elfennau clywedol, llafar, a chyfathrebu cymdeithasol amgylcheddau dysgu traddodiadol y Gymraeg yn hygyrch iddynt.
Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cwrdd yn fisol yn The Place, Casnewydd, i archwilio pa ddulliau sydd orau i’n galluogi i ddysgu, a sut y gellid eu cymhwyso i ddysgu Cymraeg drwy ysgrifennu creadigol.
Yn dilyn cyfnod o 6 mis o ymchwilio, a digwyddiad cyhoeddus i rannu a chasglu adborth, bydd y prif artistiaid, Krystal S. Lowe a Nia Gandhi, yn treulio 2 fis yn drafftio sylabws Ysgrifennu Creadigol ar gyfer datblygu caffael yr iaith Gymraeg a magu hyder ynddi.
Treulir 4 mis olaf y prosiect yn treialu, profi, ac ail-ddrafftio’r sylabws hwn.
Ar bob cam o’r ffordd, bydd ein cymuned o bobl anabl greadigol yn arwain y broses o gymryd penderfyniadau, nid yn unig gyda’r ddau brif artist ond hefyd gyda’r rhai y byddwn yn ymuno â hwy ar hyd y daith.
Nod Anabledd a Dysgu Cymraeg yw grymuso ac arfogi pobl anabl greadigol â’r sgiliau i ddatblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu hymarfer artistig, ac adeiladu gwell cysylltiadau â’r celfyddydau Cymreig i sicrhau datblygiad parhaus. Etifeddiaeth Anabledd a Dysgu Cymraeg yw cynnig addysgeg dysgu’r Gymraeg y gellir ei rhannu gydag ymarferwyr ysgrifennu creadigol ledled Cymru i alluogi cyfleoedd dysgu Cymraeg mwy cynhwysol a chreadigol fel bod modd i artistiaid ddatblygu gwaith dwyieithog a Chymraeg.
Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Brosiectau Cyngor Celfyddydau Cymru, Llais y Lle
Tîm Anabledd a Dysgu Cymraeg
Krystal S. Lowe | Nia Gandhi | Emily Corby | Nadia Nur | Safyan Iqbal
Ymgynghorwyr Creadigol
Kizzy Crawford | Tom Bevan | Sarah Gregory | Amber Howells
Cefnogir gan The Place, Casnewydd, a Llenyddiaeth Cymru