2025 Our Voice Bursary

 Introducing the 2025 Our Voice Bursary Recipients!

This year, through the 2025 Our Voice Bursary Our Voice Network, in partnership with Ballet Cymru will support Shakeera Ahmun and Jadyn Bagayas to develop as choreographers and to build connections in the arts sector in Wales to lead to touring and presenting opportunities for their work. 

The 2025 Our Voice Bursary recipients were chosen through an open selection where they showcased a rigorous, equitable choreographic practice for public benefit with less than two years experience in touring their work. 

Shakeera Ahmun


Shakeera is a Cardiff based movement artist passionate about exploring storytelling through movement and performance. Having previously worked on solo choreographic works, she’s really excited to explore her choreographic practice further with the Ballet Cymru dancers through the Our Voice Network choreographic bursary and connecting with the company as a whole.

Jadyn Bagayas 

Jadyn Arriola Bagayas is a Filipina dancer and creative from New Zealand. She trained in New York with Ballet Academy East and Ballet Rhode Island, and is now a Pre-Professional with Ballet Cymru in Wales. Jadyn aims to inspire others the way dance continues to inspire her - creating work that connects and expresses meaningful stories through movement and collaboration.






Successful recipients will be supported for one year (September 2025 - August 2026) in the following ways:

  • Monthly mentoring sessions with Ballet Cymru staff to support their development as choreographers;

  • Support from artist and Our Voice Network founder Krystal S. Lowe including application and CV writing, feedback on ideas, finding jobs and opportunities, and building connections with people in the arts sector to support ongoing career development;

  • A public showcase of their work in the 2026 Our Voice Sharing held at Ballet Cymru, produced by Krystal S. Lowe;

  • A £600 bursary to support expenses and time to develop their art-form.

“Ballet Cymru are really pleased to be partnering with Our Voice Network to support Shakeera Ahmun and Jadyn Bagayas to develop as choreographers and to connect them with opportunities to tour their work throughout Wales. Throughout this year we are looking forward to opening our doors to them to support their development in line with our greater aims as an organisation to uplift and develop a wider diversity of Welsh and Wales-based choreographers.” 

-- Ballet Cymru Artistic Director Darius James and Artistic Director: Engagement and Training Amy Doughty

“This being the fourth year of the Our Voice Bursary I am beyond excited to be focusing on supporting choreographers to develop their work for touring. Both Shakeera Ahmun and Jadyn Bagayas have commitment to their choreographic craft, a clear vision for their work, and an impressive portfolio of work that needs to reach wider audiences. Throughout this year, I am honoured to stand beside these incredible women to champion their work.”

– Krystal S. Lowe, Founder and Executive Director of Our Voice Network


Cyflwyno Derbynwyr Bwrsari Ein Llais 2025!

 

Eleni, drwy gyfrwng Bwrsari Ein Llais 2025 bydd Our Voice Network/Rhwydwaith Ein Llais mewn partneriaeth gyda Ballet Cymru – yn cefnogi Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas i ddatblygu fel coreograffwyr ac i ffurfio cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru fydd yn arwain at gyfleoedd i deithio a chyflwyno eu gwaith.

Dewiswyd y rhai i dderbyn Bwrsari Ein Llais 2025 drwy broses agored, lle bu rhai a chanddynt lai na dwy flynedd o brofiad mewn teithio eu gwaith, yn arddangos ymarfer coreograffig trwyadl, teg er lles y cyhoedd.

Photo Credit: Dan Green

Shakeera Ahmun

Mae Shakeera, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn artist symudiadau sy’n teimlo’n angerddol ynghylch archwilio adrodd straeon drwy symudiadau a pherfformiad. A hithau eisoes wedi gweithio ar ddarnau coreograffig unigol, mae hi’n edrych ymlaen yn gyffrous at archwilio ei hymarfer coreograffig ymhellach gyda dawnswyr Ballet Cymru drwy gyfrwng bwrsari coreograffig Rhwydwaith Ein Llais, a chysylltu â’r cwmni yn ei gyfanrwydd.

Jadyn Bagayas

Dawnsiwr Filipina a pherson creadigol o Seland Newydd yw Jadyn Arriola Bagayas. Hyfforddwyd hi yn Efrog Newydd gyda’r Ballet Academy East a Ballet Rhode Island, ac mae hi bellach yn ddawnsiwr Cyn-Broffesiynol gyda Ballet Cymru yng Nghasnewydd. Nod Jadyn yw ysbrydoli eraill yn y modd y mae dawns yn parhau i’w hysbrydoli hi ei hun – gan greu gwaith sy’n cysylltu ac yn mynegi straeon ystyrlon drwy symudiadau a chydweithredu.                                                                               

 

 

Bydd y derbynwyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth am un flwyddyn
(Medi 2025 – Awst 2026) yn y ffyrdd canlynol:

●      Sesiynau mentora misol gyda staff Ballet Cymru i gefnogi eu datblygiad fel coreograffwyr;

●      Cefnogaeth gan Krystal S. Lowe – artist a sylfaenydd Rhwydwaith Ein Llais –  yn cynnwys cymorth i lunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, ac adeiladu cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad parhaus yn eu gyrfa;

●      Arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith yn nigwyddiad Rhannu Ein Llais 2026 a gynhelir yn Ballet Cymru, wedi’i gynhyrchu gan Krystal S. Lowe;

●      Bwrsari o £600 i dalu am gostau ac amser i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd.

 

“Mae Ballet Cymru yn hynod falch o bartneru gyda Rhwydwaith Ein Llais i gefnogi Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas yn eu datblygiad fel coreograffwyr, a’u cysylltu hwy â chyfleoedd i deithio eu gwaith ledled Cymru. Drwy gydol y flwyddyn hon edrychwn ymlaen at agor ein drysau iddynt i gefnogi eu datblygiad yn unol â’n nodau ehangach fel mudiad i ddyrchafu a datblygu amrywiaeth ehangach o goreograffwyr o Gymru a rhai sydd wedi sefydlu yng Nghymru.”

-- Darius James, Cyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, ac Amy Doughty, Cyfarwyddwr Artistig: Ymgysylltu a Hyfforddi

 

“Eleni, ym mhedwaredd flwyddyn Bwrsari Ein Llais, rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ffocysu ar gefnogi coreograffwyr i ddatblygu eu gwaith ar gyfer teithio. Mae Shakeera Ahmun a Jadyn Bagayas wedi ymrwymo i’w crefft fel coreograffwyr, a chanddynt weledigaeth glir ar gyfer eu gwaith; mae ganddynt hefyd bortffolio  trawiadol o waith sy’n haeddu cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Drwy gydol y flwyddyn hon, mae’n anrhydedd i mi gael sefyll ochr yn ochr â’r menywod anhygoel hyn i hyrwyddo eu gwaith.”

– Krystal S. Lowe, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Rhwydwaith Ein Llais