2023 Our Voice Bursary Call-out

 Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais exists to empower, develop, and platform artists of the Global Majority through professional development opportunities, showcasing events, and bursaries.

Founded by Krystal S. Lowe

(Welsh Below)

Our Voice Bursary 2023

In Partnership with Awen Cultural Trust

For artists of the Global Majority who are seeking to take their career to the next stage.


The Our Voice Bursary 2023 aims to support two artists of the Global Majority, for one year, to take their career in the arts to the next stage and to make further connections in the arts sector in Wales.

The two bursary recipients will be chosen through an open selection process searching for those with great passion for their art-form and a clear vision of what they want and what they need to achieve it.


Successful recipients will be supported for one year (August 2023 - August 2024) in the following ways:

  • Awen Cultural Trust will support recipients’ development in the areas of: programming, outdoor arts, and technical and venue management.

  • One week of space (workspace and/or studio space) at an Awen Cultural Trust managed venue.

  • 12-months of mentoring from Awen Cultural Trust.

  • Support from Krystal S. Lowe throughout the year in application and CV writing, offering feedback on ideas, how to find jobs and opportunities, and in connecting recipients with people in the arts sector to support ongoing career development.

  • A public showcase of their work-in-progress in Our Voice 2024 sharing produced by Krystal S. Lowe.

  • And a £500.00 Bursary to support expenses and time away from work to develop their art-form.

There is also potential for bursary recipients to take part in work placements throughout the year.


Who Can Apply?

  • Creatives of the Global Majority who are seeking to take their career to the next level.

  • Creatives in any art form, included but not limited to: dancers, actors, writers, producers, directors, photographers, designers, musicians, and visual artists for example.

  • Those either formally or informally trained in their art form.

  • Applicants must be based in Wales and have at least one year of experience working in the arts. 


We’d particularly like to see applications from:

Those who haven’t received formal training in the arts

Deaf, disabled, and/or neurodivergent women

How to Apply

Email ourvoicenetwork.contact@gmail.com by June 30th responding to the following provocations in 300 words/3min Video/Audio maximum:

  • Describe who you are, what is important to you in the world, and what you enjoy doing with your time.

  • Tell us what you enjoy most about your art-form and why you do it.

  • Describe your current career and how you’d like to develop it.

  • Share what support you would like in order to develop your career.


Visit awen-wales.com to see all Awen Cultural Trust has to offer.




Timeline:

June 30th -  Application Deadline

July - Interviews 

August 6th - Selection Decision 

August 31st - Bursary Year Begins




The 2023 Our Voice Bursaries have been funded by Awen Cultural Trust.


Bwrsari Ein Llais 2023

Mewn Partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen

Ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n awyddus i fynd â’u gyrfa i’r cam nesaf.

Nod Bwrsari Ein Llais 2023 yw cynorthwyo dau artist o’r mwyafrif Byd-eang, am un flwyddyn, i fynd â’u gyrfa ym maes y celfyddydau i’r cam nesaf, ac i wneud cysylltiadau pellach yn sector y celfyddydau yng Nghymru.

Dewisir y ddau ymgeisydd llwyddiannus am y bwrsari drwy broses ddewis agored, gan chwilio am y rhai a chanddynt wir angerdd am eu ffurf ar gelfyddyd a gweledigaeth glir o’r hyn maent yn ei geisio a beth sydd ei angen arnynt i wireddu hyn. 

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu cefnogi am un flwyddyn (Awst 2023 – Awst 2024) yn y dulliau canlynol:

  • Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cefnogi datblygiad yr egin-artistiaid llwyddiannus ym meysydd rhaglennu, celf awyr agored, rheoli technegol a rheoli lleoliad.

  • Un wythnos o ofod (gofod gweithio a/neu gofod stiwdio) mewn canolfan a reolir gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

  • 12 mis o fentora gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

  • Cymorth gan Krystal S. Lowe drwy gydol y flwyddyn ar sut i gyflwyno cais a llunio CV, gan gynnig adborth ar syniadau, sut i ddod o hyd i swyddi a chyfleoedd, a chysylltu’r egin-artistiaid â phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad gyrfa parhaus.

  • Arddangosfa gyhoeddus o’u gwaith-ar-waith yn sesiwn rhannu Ein Llais 2024 a gynhyrchir gan Krystal S. Lowe.

  • A Bwrsari o £500 tuag at eu costau ac amser i ffwrdd o’r gwaith i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd.

Mae yna botensial hefyd i’r egin-artistiaid gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith drwy gydol y flwyddyn.


Pwy all ymgeisio?

  • Pobl greadigol o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n awyddus i fynd â’u gyrfa i’r lefel nesaf.

  • Pobl greadigol mewn unrhyw ffurf ar gelfyddyd yn cynnwys, ond nid wedi’i gyfyngu i, ddawnswyr, actorion, ysgrifenwyr, cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr, ffotograffwyr, dylunwyr, cerddorion, ac artistiaid gweledol er enghraifft. 

  • Rhai sydd wedi derbyn hyfforddiant – ffurfiol neu anffurfiol – yn eu ffurf ar gelfyddyd.

  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru a chanddynt o leiaf un flwyddyn o brofiad o weithio ym maes y celfyddydau. 

Byddem yn arbennig o falch o dderbyn ceisiadau gan y canlynol:

  • Y rhai hynny nad ydynt wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol yn y celfyddydau. 

  • Menywod byddar, anabl a/neu niwroamrywiol.

Sut i Ymgeisio

Gofynnir i chi anfon ebost at ourvoicenetwork.contact@gmail.com erbyn 30 Mehefin yn ymateb i’r sylwadau isod mewn dim mwy na 300 gair/3 munud o Fideo/Sain:

  • Disgrifiwch pwy ydych chi, beth sy’n bwysig i chi yn y byd, a beth rydych chi’n mwynhau treulio amser yn ei wneud.

  • Dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich ffurf ar gelfyddyd, a pham rydych yn ei wneud.

  • Disgrifiwch eich gyrfa ar hyn o bryd a sut yr hoffech ei datblygu.

  • Nodwch pa gymorth yr hoffech ei gael er mwyn datblygu eich gyrfa.

Ewch i awen-wales.com i weld popeth sydd gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i’w gynnig.

Amserlen:

30 Mehefin: Diwrnod olaf ar gyfer ceisiadau 

Gorffennaf: Cyfweliadau 

6 Awst: Gwneud y Dewis 

31 Awst: Dechrau’r Flwyddyn Bwrsari 

Ariennir Bwrsarïau Ein Llais 2023 gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.