2022 Our Voice Bursary

Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais exists to empower, develop, and platform artists of the Global Majority through professional development opportunities, showcasing events, and bursaries.

Founded by Krystal S. Lowe

2022 Our Voice Bursary

For female artists of the Global Majority who aspire to a career in the arts.


The Our Voice Bursary will support two female artists of the Global Majority, for one year, to begin a career in the arts and make ongoing connections in the arts sector.The two bursary recipients have been chosen through an open selection process seeking those with great passion for their art-form and a clear vision of what they want even if they don’t yet know how to achieve it. 
Bursary recipients will receive mentoring and support from Krystal S. Lowe in application and CV writing, feedback on creative ideas and next steps, support in finding jobs and opportunities, and connecting recipients with people in the arts sector to support ongoing career development. Along with this mentoring and support, artists will also receive one week of space (workspace and/or studio space) at a venue near their home to explore their art-form, £500.00 bursary to support expenses and time away from work to develop their art-form; and the opportunity to showcase a work-in-progress in a 2023 showcase produced by Krystal S. Lowe.


The 2022 Our Voice Bursary recipients are Karema Ahmed and Stephanie Stevens.

Karema and Stephanie standing together next to the Usk River in Newport.

Karema Ahmed is a Cardiff-based emerging singer/song-writer who is passionate about music and how it allows people to express themselves and connect with others. Karema values respect, inclusivity, compassion, and diversity and ensures all of her work, and working relationships, are underpinned by these values. It’s Karema’s desire to learn the ins and outs of the music industry, to write and produce her own songs, and to collaborate with a wide diversity of artists.

I’m grateful and excited to be given this opportunity by Our Voice Bursary and can’t wait to start this new chapter in my life. I hope this year will provide me with the tools, knowledge and experience I need to feel confident in beginning my career within the creative industry.
— Karema Ahmed

Stephanie Stevens is an actor, writer and singer. Performing in London theatres such as Park Theatre, Theatre 503 and Bush Theatre, she is drawn to theatre that incorporates love, spirituality, history and equality. Her writing is featured in ‘Lit: an anthology of dynamic new monologues for under-represented ethnicities’.




I am so excited to be a recipient of the Our Voice bursary, to receive support from Krystal S. Lowe is an honour. During this year of mentorship I hope to
develop and grow as an actor, writer and singer while creating and sharing my own work.
— Stephanie Stevens
I began these bursaries as a way to support the next generation of influential artists. To offer others the opportunity to learn as I learn, to develop as I develop, and to be seen as I am seen. These bursaries are just the beginning, as I gain more I will share more with others, beginning with women of the Global Majority who face so many barriers to successful careers in the arts. It’s my hope that the work of these bursaries offers a stepping stone to thriving, sustainable careers in the arts for these two young women and for the many more women that these annual bursaries will support in the future. I am committed to this work.
— Krystal S. Lowe, Founder


Our Voice Bursaries have been funded by Krystal S. Lowe and the public sharing of There’s Room for Me Too supported by The Riverfront Theatre, Newport. If you want to support these bursaries in anyway please contact Krystal S. Lowe at Krystalslowe.contact@gmail.com


2022 Bwrsariaeth Ein Llais

Ar gyfer artistiaid benywaidd o’r Mwyafrif Byd-eang sy'n dyheu am yrfa yn y celfyddydau.

Bydd Bwrsariaeth Ein Llais yn noddi dwy artist fenywaidd o’r Mwyafrif Byd-eang, am un flwyddyn, i sefydlu gyrfa yn y celfyddydau a gwneud cysylltiadau parhaus yn sector y celfyddydau.

Cafodd y ddwy a enillodd y fwrsariaeth eu dewis drwy broses o alwad agored oedd yn chwilio am rai a chanddynt angerdd mawr dros eu ffurf hwy ar gelfyddyd, a gweledigaeth glir o’r hyn maent yn dyheu amdano, hyd yn oed os nad ydynt eto’n gwybod sut i gyflawni hynny.

Bydd y ddwy’n derbyn mentora a chymorth gan Krystal S. Lowe wrth baratoi ceisiadau a llunio CV, ac yn cael adborth ar syniadau creadigol a’r camau nesaf, cymorth i chwilio am waith a chyfleoedd, a’u cysylltu â phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygu eu gyrfa.

Ynghyd â’r mentora a’r gefnogaeth hon, bydd artistiaid hefyd yn derbyn wythnos o ofod (gofod i weithio a/neu gofod stiwdio) mewn lleoliad sy’n agos at eu cartref i roi cyfle iddynt archwilio eu ffurf hwy ar gelfyddyd, bwrsariaeth gwerth £500 i helpu gyda’r costau ac am amser i ffwrdd o’r gwaith i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd; a’r cyfle i arddangos gwaith-ar-waith mewn arddangosfa yn 2023 a gynhyrchir gan Krystal S. Lowe.


Y rhai fydd yn derbyn Bwrsariaeth Ein Llais 2022 yw Karema Ahmed a Stephanie Stevens.

Mae Karema Ahmed, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn ganwr a chyfansoddwr caneuon; mae hi’n teimlo’n angerddol am gerddoriaeth, a’r modd y mae’n galluogi pobl i’w mynegi eu hunain a chysylltu ag eraill. Mae Karema’n gwerthfawrogi parch, cynwysoldeb, bod yn drugarog, ac amrywiaeth, ac yn sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn sail i’w holl waith a’i perthnasoedd yn ei gwaith. Dymuniad Karema yw dysgu am holl elfennau’r diwydiant cerddoriaeth, ysgrifennu a chynhyrchu ei chaneuon ei hun, a chydweithio gydag ystod eang o artistiaid.

Rwy’n teimlo’n ddiolchgar ac yn gyffrous iawn wrth dderbyn y cyfle mae Bwrsariaeth Ein Llais yn ei gynnig, ac rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau’r bennod newydd hon yn fy mywyd. Gobeithiaf y bydd y flwyddyn hon yn rhoi i mi’r offer, yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnaf i deimlo’n hyderus wrth gymryd y camau cyntaf yn fy ngyrfa o fewn y diwydiant creadigol.
— Karema Ahmed

Mae Stephanie Stevens yn actor, ysgrifennwr a chanwr. A hithau’n perfformio mewn canolfannau yn Llundain megis y Park Theatre, Theatre 503 a’r Bush Theatre, mae hi’n cael ei denu at theatr sy’n ymgorffori cariad, ysbrydolrwydd, hanes a chydraddoldeb. Mae peth o’i gwaith ysgrifenedig yn ymddangos yn y cyhoeddiad ‘Lit: an anthology of dynamic new monologues for under-represented ethnicities’.



Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn wrth dderbyn bwrsariaeth Ein Llais, ac mae cael cefnogaeth gan Krystal S. Lowe yn wir yn anrhydedd. Yn ystod y flwyddyn hon o fentoriaeth rwy’n gobeithio datblygu a thyfu fel actor, ysgrifennwr a chanwr, tra’n creu a rhannu fy ngwaith fy hun.
— Stephanie Stevens
Dechreuais y bwrsariaethau hyn fel modd o gefnogi’r genhedlaeth nesaf o artistiaid dylanwadol; i gynnig i eraill y cyfle i ddysgu fel rwyf i’n dysgu, i ddatblygu fel rwyf i’n datblygu, ac i gael eu gweld fel rwyf i’n cael fy ngweld. Dim ond y dechrau yw’r bwrsariaethau hyn; wrth i mi ennill mwy byddaf yn rhannu mwy gydag eraill, gan ddechrau gyda menywod o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n wynebu cymaint o rwystrau wrth geisio cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y celfyddydau. Fy ngobaith mawr yw y bydd y gwaith sy’n deillio o’r bwrsariaethau hyn yn cynnig carreg gamu i yrfaoedd ffyniannus, cynaliadwy yn y celfyddydau i’r menywod ifanc hyn, ac i lawer mwy o fenywod y bydd y bwrsariaethau yma’n eu cefnogi yn y dyfodol. Rwy’n gwbl ymroddedig i’r gwaith hwn.
— Krystal S. Lowe, Sylfaenydd y Fwrsariaeth



Mae Bwrsariaethau Ein Llais yn cael eu hariannu gan Krystal S. Lowe, a’r perfformiad cyhoeddus o Mae Lle i Mi Hefyd gyda chefnogaeth Theatr Glan yr Afon, Casnewydd. Os hoffech chi gefnogi’r bwrsariaethau hyn mewn unrhyw ffordd, mae croeso i chi gysylltu â Krystal S. Lowe: Krystalslowe.contact@gmail.com